Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, yn galw ar Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, i addo etholiad cyffredinol gonest a theg.

Daeth ei sylwadau yn Nhŷ’r Cyffredin ddoe (dydd Mercher, Chwefror 28).

Does dim dyddiad wedi’i bennu ar gyfer yr etholiad hyd yma, ond mae disgwyl mai yn ystod ail hanner y flwyddyn y bydd yn cael ei gynnal.

Dywed Liz Saville Roberts fod Plaid Cymru wedi llofnodi addewid Ffaith Lawn, sy’n gofyn bod pob plaid ac ymgeisydd gwleidyddol yn sicrhau bod y ffeithiau maen nhw’n eu rhannu yn gywir, yn galluogi craffu ar eu maniffesto, a pheidio â defnyddio tactegau camarweiniol yn ystod eu hymgyrch.

“Un o’u pedwar cais yw ymwrthod â thactegau ymgyrchu twyllodrus,” meddai Liz Saville Roberts wrth drafod yr addewid.

“Mae tystiolaeth o ymgyrchu camarweiniol aruthrol yng Nghymru ac mewn mannau eraill gan y Ceidwadwyr yn ystod yr wythnosau diwethaf.

“Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i ymgyrchu’n onest, oherwydd y dewis arall yw bod yn rhan o ddatgymalu democratiaeth.

“Felly, a wnaiff y Prif Weinidog lofnodi addewid Ffaith Lawn ar gyfer etholiad gonest?”

Honiadau anonest

Fodd bynnag, wrth ymateb, doedd Rishi Sunak ddim wedi cadarnhau y byddai’n gwneud yr un addewid.

“Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymreig, gaiff ei redeg gan Lywodraeth Cymru, sy’n perfformio waethaf yn y Deyrnas Unedig,” meddai.

“Mae busnesau bach Cymreig, gan gynnwys tafarndai a bwytai, yn wynebu cynnydd aruthrol yn eu hardrethi busnes, ac yn wir mae ffermwyr Cymru’n cael eu dinistrio gan gynlluniau Llywodraeth Lafur Cymru.

“Dyna’r ffeithiau yng Nghymru, ac rydyn ni’n mynd i barhau i’w nodi ar bob cyfle.”

Fodd bynnag, mae Liz Saville Roberts wedi cyhuddo’r Ceidwadwyr Cymreig o wneud “honiadau anonest” am Blaid Cymru a’u perthynas â Llywodraeth Cymru.

Daw hyn wedi i’r Ceidwadwyr Cymreig gyhuddo Plaid Cymru o chwarae rôl yn yr heriau sy’n wynebu ffermwyr, oherwydd eu bod nhw mewn “clymblaid” â’r Llywodraeth – ond dydy Cytundeb Cydweithio ddim yn gyfystyr â chlymblaid.

“Mae’n amser i Lafur a’u partneriaid yn y glymblaid, Plaid Cymru, ollwng y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ac adeiladu cynllun sy’n gweithio i ffermwyr, nid yn eu herbyn,” meddai’r arweinydd, Andrew RT Davies.

“All Llafur ddim ond difetha ffermio yng Nghymru, oherwydd bod Plaid [Cymru] wedi gadael iddyn nhw wneud.

“Os oedden nhw eisiau, byddai Plaid yn tynnu’r plwg. Yn hytrach, maen nhw’n troi at wybodaeth anghywir ac yn cadw Llafur mewn grym.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan y Ceidwadwyr Cymreig.