Mae’r Senedd wedi pleidleisio o blaid cael gwared ar Gynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.
Pleidleisiodd Plaid Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig a Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, i gael gwared ar y cynllun.
Fodd bynnag, roedd y bleidlais yn gyfartal, gyda 26 o blaid y cynnig a 26 yn ei erbyn.
Sbardunodd hyn reol sy’n golygu bod y Dirprwy Lywydd David Rees wedi bwrw ei bleidlais yntau, ac fe bleidleisiodd i gefnogi’r Llywodraeth.
‘Sector dan warchae’
Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o beidio gwrando ar y diwydiant amaethyddol, ar ôl i ryw 3,000 o bobol brotestio tu allan i’r Senedd ddydd Mercher (Chwefror 28), yn ôl Heddlu’r De.
“Mae Plaid Cymru yn falch o sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda miloedd o ffermwyr o bob rhan o Gymru i fynnu tegwch a dyfodol cynaliadwy i’r fferm deuluol Gymreig,” meddai Llŷr Gruffydd, llefarydd materion gwledig Plaid Cymru.
“Mae’n hynod siomedig, er gwaethaf cryfder teimlad amlwg sector dan warchae, nad yw Llafur yn gwrando o hyd.
“Mae ein galwad am saib yn y broses i adolygu’r polisi arfaethedig yn amlwg wedi disgyn ar glustiau byddar.
“Bydd Plaid Cymru yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau cynllun cymorth yn y dyfodol sy’n gweithio i bawb.”
Dywed ei fod yn annog pawb i ymateb i’r ymgynghoriad parhaus ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn y cyfamser, er mwyn lleisio eu barn ar y polisi.
Cefn gwlad Cymru’n “rhwystredig”
Mae Sam Kurtz, llefarydd materion gwledig y Ceidwadwyr Cymreig, hefyd wedi lleisio ei siom yn dilyn y bleidlais.
“Heddiw, fe wnaethon ni roi cyfle i Lywodraeth Cymru gydnabod eu bod nhw ar y trywydd anghywir gyda’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy,” meddai.
“Yn anffodus, i ffermwyr a chefn gwlad Cymru, fe wnaethon nhw ddewis peidio manteisio ar y cyfle hwnnw, ac rwy’n rhannu’r rhwystredigaeth cymunedau gwledig a sector amaethyddol Cymru.”
Ychwanega fod yn rhaid i gynllun sy’n gweithio i ffermwyr weithio i Gymru hefyd.
“Rwy’n awgrymu, ar ôl y ddadl heddiw a’r brotest ar risiau’r Senedd, y dylai Llywodraeth Cymru fynd yn ôl at y bwrdd darlunio a dylunio cynllun sy’n gweithio gyda’n ffermwyr, nid yn erbyn,” meddai.
Ymateb Llwyodraeth Cymru
Wrth ymateb ar ôl y ddadl, fe wnaeth Lesley Griffiths gyhuddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig o “dorri addewid” i roi arian newydd i ffermio yn sgil colli arian Ewropeaidd.
“Maen nhw wedi dileu bron i chwarter biliwn o bunnoedd o’n cyllidebau cefnogi ffermio,” meddai.
“Dyma arian ddylid bod wedi’i fuddsoddi yn ein cymunedau gwledig.”