Mae Cig Oen a Chig Eidion Cymru wedi derbyn statws Dynodiad Daearyddol (GI) yn Japan.

Mae’r statws gwarchodedig hwn yn golygu bod hawl allforio’r cynhyrchion premiwm i’r wlad honno, gyda sicrwydd ychwanegol eu bod nhw wedi’u diogelu rhag cynhyrchion sy’n eu hefelychu.

Mae’r cyhoeddiad gan yr Adran Fusnes a Masnach, sy’n cael ei ystyried yn llwyddiant i gig coch Cymru gan Hybu Cig Cymru (HCC), yn dilyn proses o fiwrocratiaeth a chraffu trylwyr gan y Deyrnas Unedig a Japan.

Bydd ail grŵp yn cael ei gyhoeddi ar ôl cwblhau gwaith pellach.

Daeth y Cytundeb Partneriaeth Economaidd Cynhwysfawr rhwng y Deyrnas Unedig a Japan i rym ar Ionawr 1, 2021 ac fe fydd yn arwain at gynnydd yn nifer y Dynodiadau Daearyddol gwarchodedig – dim ond saith ar hyn o bryd – o dan y cytundeb masnach rhwng yr Undeb Ewropeaidd a Japan i dros 70.

‘Adeiladu ar waith hollbwysig Hybu Cig Cymru’

“Rydym wrth ein bodd fod Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru bellach wedi’u diogelu gan y dynodiad GI,” meddai Laura Pickup, Pennaeth Marchnata Strategol a Chysylltiadau Hybu Cig Cymru.

“Mae’n adeiladu ar y gwaith hollbwysig y mae HCC eisoes wedi’i wneud i sicrhau marchnad ar gyfer ein brandiau premiwm sydd yn allweddol i ni.

“Yn ogystal, mae’n golygu y gall defnyddwyr yn Japan fod yn dawel eu meddwl, pan fyddan nhw’n prynu Cig Oen Cymru GI a Chig Eidion Cymru GI, eu bod yn dewis cynnyrch premiwm sy’n seiliedig ar dreftadaeth a dulliau cynhyrchu cynaliadwy sydd yn arwain y byd.”