Mae’n “anrhydedd” ennill gwobr Tafarn Orau Cymru gan y Gynghrair Cefn Gwlad, yn ôl aelod o bwyllgor tafarn gymunedol Y Fic ym Mhen Llŷn.

Y dafarn yn Llithfaen yw’r dafarn gymunedol hynaf yng ngwledydd Prydain, ac mae hi’n dathlu’i phen-blwydd yn 36 oed eleni.

Enillodd y dafarn y wobr yn y Senedd nos Fawrth (Chwefror 27), a dywed Ceri Roberts, sy’n aelod o’r pwyllgor ers tua chwe blynedd, fod dod i’r brig yn “dipyn o sioc”.

Fe wnaethon nhw guro’r Llew Gwyn yng Nghorwen, y Dolau Inn yn y Drenewydd, a’r Griffith Inn yn y Porth yn y Rhondda am y wobr.

“Mae o’n deimlad braf i ni sy’n rhoi gymaint o amser mewn i’r dafarn bod pobol eraill yn gwerthfawrogi bob dim rydyn ni’n ei wneud yna,” meddai Ceri Roberts wrth golwg360.

“Mae yna unarddeg ohonom ni ar y pwyllgor, ond dw i’n meddwl ein bod ni i gyd wedi bod yn griw gweithgar sydd eisiau i’r Fic lwyddo.

“Os na fysa’ ni’n gweithio mor galed i sicrhau hynna, fysa’ yna ddim tafarn yn Llithfaen.

“Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod yna hwb cymdeithasol yn y pentref.”

‘Gweld gwerth’

Ddeng mlynedd yn ôl, fe wnaeth astudiaeth ddangos bod pob £1 o fuddsoddiad ym menter y Fic yn arwain at werth o £2.28 yn y gymdeithas leol.

“Mae’r dafarn yn sicrhau ein bod ni yn y pentref, i ddechrau, yn adnabod ein gilydd; rydyn ni’n oedran eang iawn yna, ac mae rhywun yn ei ugeiniau’n gallu eistedd rownd bwrdd efo rhywun yn ei saithdegau, ac mae pawb yna’n un gang mawr o ffrindiau,” meddai Ceri Roberts wedyn.

“Mae o wedi bod yn waith caled ar hyd y blynyddoedd, dw i’n sicr y bysa’r rhai wnaeth gychwyn o’n dweud hynna.

“Ond mae o wedi bod werth o.”

Cafodd y Fic ei sefydlu fel tafarn gymunedol brin yn 1988, ond erbyn hyn mae degau o dafarndai cymunedol ar hyd a lled Cymru.

“Mae o’n braf iawn gweld bod pawb yn gweld gwerth yn beth rydyn ni wedi’i wneud, ac wedyn wedi’i efelychu fo yn eu pentrefi nhw i gadw’r ymdeimlad o gymdeithas a’r Gymraeg yn fyw.”