Mae ymchwil ac arloesedd prifysgolion Cymru wedi bod dan y chwyddwydr, wrth i uwch swyddogion o bob rhan o’r byd ymgasglu ym Mrwsel i gael cipolwg ar y sector ymchwil ac arloesedd yng Nghymru.

Cafodd y digwyddiad ei gynnal i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi fel rhan o raglen Dydd Gŵyl Dewi Brwsel 2024 Llywodraeth Cymru.

Cafodd y digwyddiad, gafodd ei gynnal ddoe (dydd Mercher, Chwefror 28), ei drefnu gan Rwydwaith Arloesedd Cymru (RhAC) ac Addysg Uwch Cymru Brwsel (WHEB), gyda chymorth rhaglen Cymru Fyd-eang (gaiff ei hariannu gan Taith).

Y nod oedd tynnu sylw at gryfder ac ehangder yr ymchwil ac arloesedd sy’n digwydd ym mhrifysgolion Cymru.

Roedd y digwyddiad yn pwysleisio ymroddiad Cymru i weithio gyda phartneriaid ar draws Ewrop, yn ogystal â dathlu cysylltiad y Deyrnas Unedig â rhaglen Horizon.

Mae prifysgolion Cymru wedi parhau i sefydlu eu presenoldeb yn Ewrop drwy swyddfa WHEB a mentrau megis y bartneriaeth rhwng Sefydliad Ymchwil Fflandrys a Chymru Fyd-eang.

Cymru wrth galon ymchwil

Roedd y derbyniad yn gyfle i arddangos cryfderau ymchwil ac arloesedd Cymru, gan gynnwys datgarboneiddio, technoleg amaeth, a thechnoleg lled-ddargludyddion.

Mae’r rhain yn feysydd lle gall Cymru fod wrth galon ymchwil ac arloesedd Ewropeaidd, gan gynnig cyfleoedd allweddol ar gyfer partneriaeth i hybu’r economi a chymdeithas yn y gwledydd hynny.

Ymhlith y rhai oedd yn bresennol roedd rhanddeiliaid allweddol, arweinwyr prifysgolion, ac arweinwyr meddwl yn y sector ymchwil ac arloesedd gan gynnwys Matthias De Moor, Cynrychiolydd Cyffredinol Fflandrys i’r Undeb Ewropeaidd.

Mewn araith, tynnodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, sylw at barodrwydd Cymru i gymryd rhan weithredol yn Horizon Europe, gan ddefnyddio doniau amryfal, adnoddau a syniadau’r wlad i sbarduno mentrau ymchwil arloesol sydd o fudd i’r economi a chymdeithas.

“Un o rinweddau mwyaf nodweddiadol ein prifysgolion yw pa mor dda maen nhw yn cynnal ymchwil yr ystyrir ei fod yn cael effaith ragorol yn rhyngwladol.

“Mae partneriaeth a chydweithio wrth wraidd y llwyddiant hwn – nid yw arloesedd yn digwydd ar ei ben ei hun.

“Tra bod y pandemig a Brexit wedi effeithio ar gysylltiadau byd-eang llawer o ymchwilwyr, mae prifysgolion Cymru’n parhau i fod wedi ymrwymo i gydweithio â phartneriaid Ewropeaidd.

“Nawr ein bod yn gwbl gysylltiedig â rhaglen Horizon Europe, mae gennym gyfle sylweddol i gryfhau partneriaethau rhyngwladol, denu doniau byd-eang a chyflawni gwyddoniaeth ac arloesedd sydd ar flaen y gad, all ddod â buddion diriaethol i gymdeithas yng Nghymru a thu hwnt.”

‘Traddodiad hir o ymwneud â rhaglenni Ewropeaidd’

“Yng Nghymru, mae gennym draddodiad hir o ymwneud yn effeithiol â rhaglenni’r Undeb Ewropeaidd, ac rydym yn falch o gryfder cydweithio ar draws ein gwlad, o fewn y Deyrnas Unedig a chyda phartneriaid yn fyd-eang,” meddai’r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, sy’n gadeirydd Prifysgolion Cymru a RhAC.

“Rwy’ wrth fy modd ein bod, trwy’r digwyddiad hwn ym Mrwsel, wedi gallu arddangos effaith yr ymrwymiad hwn i bartneriaeth, tra’n dangos amrywioldeb sector ymchwil ac arloesedd Cymru.

“Rydym yn parhau i fod yn awyddus i gydweithio â phartneriaid Ewropeaidd, yn dilyn ymgysylltiad y Deyrnas Unedig â Horizon Europe, a thrwy hyrwyddo cydweithredu, croesawu amrywioldeb, a sbarduno arloesedd, rydym yn hyderus y gall y sector ymchwil ac arloesedd yng Nghymru barhau i wneud cyfraniad sylweddol at lunio’r dirwedd ymchwil fyd-eang.”

Roedd y digwyddiad yn gyfle i Rwydwaith Arloesedd Cymru arddangos y gwaith maen nhw’n ei wneud i bartneriaid Ewropeaidd.

Mae RhAC yn drefniant cydweithredol arloesol rhwng prifysgolion yng Nghymru sy’n hwyluso cydweithio ar draws prifysgolion Cymru, gan harneisio amrywiaeth ymchwil ac arloesedd yng Nghymru i greu effaith economaidd a chymdeithasol ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.