Effaith Covid-19 sydd wedi bod yn cael sylw yn ystod ail ddiwrnod ymweliad ymchwiliad Covid y Deyrnas Unedig â Chaerdydd heddiw (dydd Mercher, Chwefror 28).
Mae pobol wnaeth golli anwyliaid yng Nghymru wedi bod yn sôn am effaith y coronafeirws a’r ymateb i’r pandemig arnyn nhw a’u teuluoedd.
Ynghyd â hynny, mae arbenigwyr wedi bod yn trafod yr effaith ar bobol Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, pobol ag anableddau, plant a phobol hŷn.
Negeseuon WhatsApp diflanedig Vaughan Gething, Gweinidog Iechyd Cymru, yn ystod y pandemig oedd canolbwynt diwrnod cynta’r ymchwiliad yng Nghymru ddoe (dydd Mawrth, Chwefror 27).
Profion Covid a chartrefi gofal
Wrth gynrychioli grŵp Covid-19 Bereaved Families Cymru, dywedodd Elizabeth Grant, wnaeth golli’i mam ar ôl iddi brofi’n bositif am Covid-19, ei bod hi eisiau gwybod pam fod Cymru bron i bythefnos ar ôl Lloegr yn dechrau profi cleifion am Covid-19 cyn eu rhyddhau nhw o ysbytai i gartrefi gofal.
Daeth hynny i rym yn Lloegr ar Ebrill 16, 2020, ac yng Nghymru ar Ebrill 29.
Clywodd yr ymchwiliad ddoe fod 1,000 o gleifion wedi gadael ysbytai yng Nghymru heb brofion Covid-19 yn ystod mis Mawrth ac Ebrill 2020.
Bu Helena Herklots, Comisiynydd Pobol Hŷn Cymru, yn rhoi tystiolaeth heddiw hefyd.
Dywedodd ei bod hi wedi sôn wrth Julie Morgan, Dirprwy Weinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru, am y diffyg profion Covid-19 mewn cartrefi gofal ar Ebrill 14, 2020 – tua thair wythnos i mewn i’r cyfnod clo cyntaf.
Roedd ymateb Julie Morgan i’w galwad am gynllun gweithredu ar gyfer cartrefi gofal ar ddechrau’r pandemig yn “annigonol”, meddai.
Roedd pryderon hefyd am driniaethau ysbyty i drigolion cartrefi gofal, meddai, a dywedodd ei bod hi’n poeni bod meddygon teulu wedi rhoi’r gorau i ymweld â chartrefi gofal.
Awgrymodd nad oedd gweinidogion Llywodraeth Cymru, o bosib, yn canolbwyntio ar bobol hŷn pan ddaeth bygythiad Covid-19 i’r amlwg ar ddechrau 2020.
Wnaeth Llywodraeth Cymru ddim codi Covid-19 gyda hi tan fis Mawrth 2020, meddai.
Gorchuddion wyneb
Mater arall sydd wedi cael ei godi sawl tro heddiw ydy pam fod Llywodraeth Cymru wedi cymryd yn hirach na Llywodraeth y Deyrnas Unedig i orfodi pobol i wisgo gorchuddion wyneb mewn llefydd cyhoeddus.
Daeth y rheol honno i rym ym mis Medi 2020 yng Nghymru, tra ei bod mewn grym yn Lloegr ddeufis ynghynt.
Fodd bynnag, roedd gofyn i bobol wisgo mygydau ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn tacsis ers Gorffennaf 27, 2020.
Ar y pryd, dywedodd Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, mai’r rheswm dros beidio â’u cyflwyno nhw i bob man cyhoeddus oedd fod rhaid blaenoriaethu stoc i weithwyr iechyd a gofal, y gallen nhw annog pobol i ymddwyn mewn ffordd fyddai’n eu gwneud nhw’n agored i niwed, ac nad pawb oedd yn gallu prynu mygydau.
‘Amlygu anghydraddoldebau’
Mae tystiolaeth yn dangos bod y pandemig wedi cael effaith anghymesur ar bobol o leiafrifoedd ethnig.
Dywedodd yr Athro Emmanuel Ogbonna, o grŵp cynghori BAME (Du, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol) Covid y Prif Weinidog, fod y pandemig wedi “amlygu anghydraddoldebau hil eraill”.
Roedd y risg o farw gyda Covid-19 1.9 yn uwch ymysg pobol Ddu, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol o gymharu â phobol â chroen gwyn, a 1.8 yn uwch ar gyfer dynion o gefndiroedd Pacistanaidd a Bangladeshi o gymharu â dynion gwyn.
Dywedodd Emmanual Ogbonna fod yna rai rhwystrau ieithyddol wrth gyrraedd y bobol oedd fwyaf agored i berygl Covid-19, a bod yna rai “gwahaniaethau diwylliannol” wrth drosglwyddo negeseuon.
O ran effaith cyfyngiadau Covid-19 ar bobol ag anableddau, dywedodd Debbie Foster o Brifysgol Caerdydd y dylid bod wedi deall yr effeithiau’n gynnar yn nyddiau’r pandemig.
Dywedodd fod gorchuddion wyneb yn cael effaith negyddol ar broblemau clyw, bod rheoliadau ymbellhau cymdeithasol yn broblem i bobol â phroblemau golwg, a bod y cyfnodau clo wedi cael effaith negyddol ar lawer o bobol ag anghenion dysgu.
Clywodd yr ymchwiliad fod gan saith ym mhob deng o bobol fu farw rhwng Mawrth a Gorffennaf 2020 anableddau.
Yr effaith ar blant
Clywodd yr ymchwiliad fod Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru ar y pryd, yn dweud na wnaeth Llywodraeth Cymru ymgynghori â hi ynglŷn â chau ysgolion ym mis Mawrth 2020.
Er na fyddai wedi gwrthwynebu’r penderfyniad, dywedodd y gallai ei harbenigedd fod wedi bod o fudd.
Dywedodd hefyd fod y pandemig yn gyfnod “eithriadol” i blant, wnaeth golli allan ar brofiadau fel mynd i’r ysgol, cymdeithasu â phlant, a gweld eu neiniau a theidiau.
“Dydy’r rhain ddim yn bethau ‘sy’n neis i blant eu cael’, ond yn hytrach yn rhan bwysig o’u datblygiad,” meddai.
Fe wnaeth tafarndai agor cyn parciau a chaeau chwarae, oedd yn “enghraifft” o adeg pan na chafodd anghenion plant eu hystyried, meddai Sally Holland.
Ychwanegodd fod Covid wedi cael effaith ddwys ar blant, a bod ei effaith yn parhau – yn enwedig i rai grwpiau penodol.
“Fe wnaeth yr anghydraddoldebau mae plant yn eu dioddef tu allan i’r pandemig ddod yn amlycach yn ystod y pandemig,” meddai.
Roedd y rhain yn cynnwys tlodi, anableddau, ethnigrwydd a sefyllfaoedd plant oedd ddim yn ddiogel yn eu cartrefi.
Mae’r ymchwiliad yn parhau.