Ar ddiwrnod protest fawr ger y Senedd ym Mae Caerdydd, mae ffermwyr wedi bod yn dangos eu dicter ynghylch y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Cyn y brotest, bu Cymdeithas yr Iaith yn dadlau bod “angen gwrando ar ffermwyr ac ystyried y Gymraeg“, tra bod Sam Kurtz, llefarydd materion gwledig y Ceidwadwyr Cymreig, yn galw am barch ar y ddwy ochr i’r ddadl.

Roedd yr heddlu wedi bod yn annog ffermwyr i beidio dod â thractorau i Fae Caerdydd, wrth i Llŷr Gruffydd, llefarydd materion gwledig Plaid Cymru, ddadlau y byddai camu’n ôl o’r Cytundeb Cydweithio â Llywodraeth Cymru’n gyfystyr â cherdded oddi wrth ffermwyr.

Catrin Lewis, Gohebydd Materion Cyfoes golwg360, sy’n asesu beth oedd gan y siaradwyr i’w ddweud yn ystod y brotest a’r ymateb i’r sylwadau hynny:

Plaid Cymru

Yn cynrychioli Plaid Cymru roedd Llŷr Gruffydd, eu llefarydd materion gwledig, a’u harweinydd Rhun ap Iorwerth.

Yn ystod ei araith, cyfeiriodd Llŷr Gruffydd at Streic y Glowyr, gan gymharu’r cyfnod cythryblus o’r gorffennol â’r ymateb i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

“Safodd llawer ohonom gyda’r glowyr 40 mlynedd yn ôl pan oedden nhw’n ymladd am eu bywoliaeth; mae llawer yn sefyll heddiw gyda’r gweithwyr dur sy’n ymladd am eu bywoliaeth,” meddai.

“Nid yw hyn yn wahanol – mae gan Gymru wledig yn union yr un hawl i fod yn sefyll dros ei bywoliaeth ei hun. Dyna yn union rydym ni’n ei wneud.”

Yn ogystal, addawodd Rhun ap Iorwerth y byddai ei blaid yn llais dros y ffermwyr yn ystod y cyfnod o anghydfod.

“Gallwch chi, ac yn bwysicaf oll, gallwn ni, gyda’n gilydd, wneud y gwahaniaeth hwnnw a chyflawni’r newid ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ac ar reoliadau ar TB,” meddai.

“Ni ym Mhlaid Cymru fydd eich llais, yn siarad ar eich rhan yn y Senedd heddiw, oherwydd digon yw digon.

“Diolch i bob un ohonoch.”

Ffermwyr

Hefyd yn bresennol roedd Nigel Owens, y cyn-ddyfarnwr rygbi sydd erbyn hyn yn ffermwr ei hun.

Dywedodd fod angen i bawb ddod at ei gilydd i sicrhau tegwch a diogelwch i ddyfodol y diwydiant.

“Dylai bod dim ots pwy ydych chi, neu o ble ydych chi’n dod, na beth yw eich lliw croen neu eich rhywedd neu eich credoau crefyddol neu wleidyddol chi,” meddai.

“Yr unig beth ddylai fod o bwys yw ein bod ni i gyd yn cael ein trin gyda pharch a thegwch, ac yn cael yr un hawl i fyw ein bywydau a’n bywoliaethau fel yr ydym ni wedi’i wneud erioed.”

Dywedodd ei bod yn “fraint” cael siarad â’r dorf fel cyd-ffermwr.

“Yn 2015, cefais y fraint o ddyfarnu ffeinal Cwpan y Byd yn Twickenham – moment fwyaf balch fy ngyrfa.

“Heddiw, rwy’ hyd yn oed yn fwy balch o ddod yma ac o siarad o flaen pobol dda.”

Siaradwr arall oedd Ian Rickman, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, ddywedodd fod y ddraig wedi’i deffro.

“Mi wnaeth Undeb Amaethwyr Cymru rybuddio Llywodraeth Cymru i beidio a deffro’r ddraig goch Gymreig o’i chwsg. Ond mae’r ddraig wedi ei deffro,” meddai.

Llafur

Mae Lee Waters, y Dirpwry Weinidog Trafnidiaeth, yn un sydd wedi ymuno â’r sgwrs, ac fe rannodd e neges ar X (Twitter gynt) yn nodi ei fod wedi “gwrando yn ofalus” ar areithiau’r brotest.

“[Mae] teimlad cryf nad ydyn nhw’n cael eu gwerthfawrogi, a bod gofyn iddyn nhw wneud gormod i fynd i’r afael â newid hinsawdd,” meddai am ffermwyr.

“Fodd bynnag, does dim dewisiadau amgen clir y gallwn eu gweld, na gwerthfawrogiad o effaith colli cyllid yr Undeb Ewropeaidd.

“Mae angen deialog adeiladol arnom.”

Wrth siarad yn y Senedd yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd Mark Drakeford ei fod e eisiau “cymodi” gyda’r diwydiant.

“Rwy’n meddwl bod heddiw’n ddiwrnod ar gyfer cymodi ledled Cymru, ac mae’n ddiwrnod i ostwng tymheredd y ddadl sydd wedi mynd rhagddi ynghylch dyfodol ffermio,” meddai.

Ceidwadwyr Cymreig

Un arall fu’n areithio yw Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig sydd hefyd yn ffermwr.

“Beth rydym ni fel diwydiant yn ei wneud ydi sicrhau ein bod yn darparu bwyd i’r genedl ac yn gwarchod yr amgylchedd,” meddai.

“Ar ben bopeth, beth sydd rhaid i ni barhau i’w wneud yw cynhyrchu y bwyd, amddiffyn ein amgylchedd a galluogi i’r genhedlaeth nesaf ddod ymlaen a ffermio fel wnaethon ni.

“Gadewch i ni wneud i newid ddigwydd, a chael y cynllun yma’n iawn fel ein bod ni’n gallu parhau i wneud beth rydym ni’n ei wneud orau, sef ffermio a gofalu am ein hamgylchedd.”

Disgrifiodd Sam Rowlands, llefarydd llywodraeth leol y Ceidwadwyr Cymreig, y cyfle i gyfrannu at y sgwrs “fel un o’r adegau mwyaf balch” yn ei fywyd.

“Roedd siarad yn y brotest y tu allan i’r Senedd yn un o adegau mwyaf balch fy mywyd, fel gwleidydd ac fel mab fferm, ond mae’n ddrwg gennyf weld bod Llywodraeth Cymru wedi gadael iddo fynd mor bell â hyn,” meddai.

“Mae’r momentwm gyda’r diwydiant nawr ac mae’n rhaid i bwy bynnag sy’n dod yn Brif Weinidog nesaf Cymru, a’r Gweinidog Materion Gwledig nesaf, weithio’n galed ar yr Cynllun Ffermio Cynaliadwy, Parthau Perygl Nitradau, a’r diciâu mewn gwartheg i atgyweirio perthynas doredig rhwng y llywodraeth a’r sector amaethyddol.

Ychwanegodd ei fod eisiau diolch i bawb fynychodd am “y parch a’r drefn gafodd eu dangos ganddyn nhw.”

“Hon oedd y [brotest] fwyaf o’i bath, ac os nad yw’r neges wedi cyrraedd Llywodraeth Cymru nawr, dydw i ddim yn siŵr y bydd hi byth,” meddai.

 


@golwg360

Ar ddiwrnod protest fawr ger y Senedd ym Mae Caerdydd, mae ffermwyr wedi bod yn dangos eu dicter ynghylch y Cynllun Ffermio Cynaliadwy 🚜 Dyma farn Elgan, Tudur ac Alys ar y sefyllfa 📢 #cymru #farming #wales

♬ original sound – golwg360

Aeth Lleucu Jenkins, Cynhyrchydd Digidol golwg360, draw i’r Senedd:

Doedd y tywydd drwg yn y brifddinas ddim am atal ffermwyr a’u cefnogwyr rhag troi allan i fynegi eu teimladau:

 

 

 

Roedd neges y criw yma o ffermwyr yn glir – “Dim ffermwyr, dim bwyd!”: