Mae Heddlu’r De wedi annog ffermwyr i beidio dod â thractorau a cherbydau amaethyddol i brotest ym Mae Caerdydd yfory (dydd Mercher, Chwefror 28).

Mae disgwyl torf fawr y tu allan i’r Senedd am 12.30yp, wrth i ffermwyr brotestio yn erbyn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Dywed Heddlu’r De y byddan nhw’n monitro’r sefyllfa yn ofalus ac nad ydyn nhw’n siŵr ar hyn o bryd faint o oedi fydd i deithwyr ar y ffyrdd.

Does dim bwriad i gau unrhyw ffyrdd, ond fe fydd mynediad at rai ffyrdd ger y Senedd yn cael eu rheoli, meddai’r heddlu.

‘Risg i ddiogelwch’

“Mae Heddlu De Cymru’n parchu’r hawl i brotestio’n heddychlon ac rydym mewn trafodaethau gyda’r trefnwyr i sicrhau bod y brotest yn digwydd yn ddiogel, yn gyfreithlon gyda chyn lleied o darfu â phosibl ar y cyhoedd,” meddai’r Uwch-Arolygydd Esyr Jones.

“Tra bod cytundeb i hwyluso gweithgarwch protestio y tu allan i’r Senedd, byddwn yn annog protestwyr i beidio â dod â thractorau na cherbydau amaethyddol eraill i’r brotest.

“Mae yna bryderon eu bod yn peri risg i ddiogelwch defnyddwyr eraill y ffyrdd ac yn cyfyngu ar symudiad y gwasanaethau brys mewn amgylchedd dinas brysur.

“Byddwn yn monitro’r sefyllfa drwy gydol y dydd a dylai modurwyr wirio am unrhyw darfu ar y rhwydwaith ffyrdd a chynllunio eu teithiau yn unol â hynny.

“Byddwn yn hysbysu’r cyhoedd am unrhyw oedi neu aflonyddwch yn ystod y dydd.”

Mae’r digwyddiad ddydd Mercher yn rhan o brotestiadau ehangach sydd wedi cael eu cynnal ar draws Cymru, wrth i amaethwyr ddangos eu gwrthwynebiad i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Mae undebau amaethyddol yn dadlau bod gofynion y Cynllun yn peryglu busnesau.

Mae’r gofynion yn cynnwys sicrhau bod coed yn cael eu plannu ar 10% o dir fferm, a bod 10% yn cael ei reoli fel cynefin.