Mae Ymchwiliad Covid y Deyrnas Unedig wedi bod yn clywed tystiolaeth heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 27) wrth i’r ymchwiliad ymweld â Chaerdydd.
Bydd yr ymchwiliad yn craffu ar sut roedd Llywodraeth Cymru wedi delio â’r pandemig.
Mae Nia Gowman yn cynrychioli’r grŵp Teuluoedd er Cyfiawnder mewn Profedigaeth Covid-19 Cymru.
Dywedodd wrth yr ymchwiliad fod oedi gyda phrofion mewn cartrefi gofal yn “warant marwolaeth”.
Mae Nia Gowman wedi cwestiynu penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio ag ymestyn profi i holl staff a phreswylwyr cartrefi gofal nes Mai 16, 2020.
“Pam y gwnaeth Cymru oedi?” gofynnodd yn ystod yr ymchwiliad.
‘Neges amlwg nad oedd ots ganddyn nhw’
“Fe welodd y Cymry mewn profedigaeth ganlyniadau uniongyrchol diffygion o ran parodrwydd ac ymateb,” meddai Nia Gowman.
“Roedden nhw’n dyst i fethiannau unigol a systemig wrth i Covid-19 ymledu fel tanau gwyllt trwy ysbytai a chartrefi gofal, wedi’u tanio gan gyfundrefnau profi difrïol a PPE annigonol.
“Mae’n rhaid, ac fe fydd, lleisiau’r rhai mewn profedigaeth yng Nghymru yn parhau i gael eu clywed yn y dystiolaeth bwerus sydd i ddod.
“Pam y gwnaeth Llywodraeth Cymru oedi?
“Canfyddiad grŵp Cymru yw bod yr oedi yn debyg i warant marwolaeth i’r henoed a neges amlwg gan Lywodraeth Cymru nad oedd ots ganddyn nhw.”
‘Methiant enfawr’
Yn ôl Adam Straw, sy’n siarad ar ran Ymgyrch John a Care Rights UK, fe wnaeth y Llywodraeth fethu ag “ystyried gwybodaeth gan randdeiliaid neu arbenigwyr”.
Wrth siarad am benderfyniad Llywodraeth Cymru i ryddhau pobol o ysbytai i gartrefi gofal heb brofion, dywedodd Adam Straw ei fod yn “fethiant enfawr”.
“Rydym yn cytuno â Tom Poole KC [Prif gwnsler yr ymchwiliad] nad oes amheuaeth bod methiant enfawr o reoli heintiau, wedi cyfrannu o leiaf yn rhannol at fewnlifiad cleifion heintiedig ond heb eu profi i gartrefi gofal, ac rydym yn dweud bod hynny’n amlwg, am dri rheswm allweddol,” meddai.
“Yn gyntaf, roedd cyfraddau uchel iawn o Covid-19 mewn ysbytai bryd hynny.
“Yn ail, roedd y rhai mewn gofal yn amlwg yn agored iawn i Covid-19.
“Ac yn drydydd, cafodd trosglwyddiad asymptomatig ei gydnabod yn glir erbyn Mawrth 17.”
Dywed fod cyfyngiadau llym mewn grym, bron yn gyffredinol drwyddi draw rhwng Mawrth 23 2020 a Mai 2021, ac er bod yr effeithiau andwyol yn cael eu gwneud yn glir, “wnaethon nhw ddim arwain at newidiadau priodol”.
Mae’n dweud y dylai fod newidiadau wedi bod yn gynharach ac y dylid fod wedi ymgynghori â phobol i weld a oedden nhw am “dreulio eu misoedd olaf yn ynysig… neu wynebu risg uwch o Covid”.
Mae’n dweud na chafodd digon o PPE ei roi i’r rhai sy’n darparu gofal, a’i bod yn ymddangos bod hynny wedi cael ei dderbyn gan Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd ar y pryd.
Byddai Cymru wedi elwa o ‘gynllunio gwell a manylach’ ar gyfer pandemig
Er nad ydy’r adroddiad o’r modiwl cyntaf – oedd yn canolbwyntio ar wytnwch a pharodrwydd – wedi’i gyhoeddi eto, roedd paratoad Cymru at bandemig yr un mor wan â Lloegr, yn ôl Sam Jacobs sy’n cynrychioli’r undeb TUC.
“Mae’n ymddangos bod paratoi ar gyfer pandemig wedi bod yr un mor wael yng Nghymru ag yr oedd yn Lloegr,” meddai.
“Mae hanfod hyn yn syml – mae ymateb effeithiol i bandemig yn gofyn am ymateb cyflym, ond dydy ymateb cyflym ddim yn gweithio os dydy cynllunio hanfodol heb ei wneud.
“Mae llawer o’r cyfleoedd gwirioneddol i leihau effeithiau dinistriol y pandemig, fel Covid-19, yn dod o baratoi a chynllunio gwell a manylach ar gyfer pandemig yn y dyfodol.”
I ddod
Mae disgwyl i’r cwestiynu symud ymlaen at bynciau fel:
- mynediad at (a defnydd mewn gwneud penderfyniadau o) arbenigedd meddygol a gwyddonol, casglu a modelu data’n ymwneud â lledaeniad y feirws yng Nghymru; mesur a deall y cyfraddau trosglwyddiad, heintiad, mwtaniad, ailheintiad a marwolaeth yng Nghymru; a’r berthynas rhwng (a gweithrediad o) systemau perthnasol ar gyfer casglu, modelu a dosbarthu data.
- cyfathrebiadau iechyd cyhoeddus yng Nghymru mewn perthynas â’r camau sy’n cael eu cymryd i reoli lledaeniad y feirws; tryloywder y negeseuon; y defnydd o reoli ymddygiad a chynnal hyder cyhoeddus yn Llywodraeth Cymru, gan gynnwys effaith unrhyw doriadau honedig o reolau a safonau gan weinidogion, swyddogion a chynghorwyr.
- y ddeddfwriaeth a rheoliadau iechyd cyhoeddus a choronafeirws gafodd eu cynnig a’u deddfu: eu cymesuroldeb a’u gorfodaeth ledled Cymru.