Roedd ymroddiad Iolo Owen Trefri at Ynys Môn “yn amhrisiadwy”, yn ôl cyfaill iddo.

Bu farw’r dyn busnes a ffermwr o Ynys Môn, sydd wedi cael ei ddisgrifio fel “dyn arbennig a ffarmwr heb ei ail”, yn 92 oed.

Bydd yn cael ei gofio am greu brîd newydd o ddafad nad oedd angen ei chneifio, mentro rhedeg gwesty a bwyty, a hyd yn oed agor sŵ.

Derbyniodd yr MBE am ei gyfraniad i’r byd amaethyddol, a threuliodd ei oes yn arloesi ac arbrofi.

Yn 2022, ymddangosodd ar raglen arbennig o Cefn Gwlad, oedd yn dathlu ei fywyd.

Cafodd Iolo Trefri ei fagu ar fferm yn ne-orllewin Ynys Môn, cyn symud i Drefri yn bump oed.

Yno y gwnaeth e a’i wraig, Gwyneth, fagu pump o blant, gan gynnwys y cyflwynydd a digrifwr Tudur Owen.

Yn y 1950au, prynodd ei dad fferm Glantraeth, ac ar ddechrau’r 1970au, trodd Iolo Trefri’r hen siediau ar y fferm yn fwyty a llwyfan ar gyfer nosweithiau llawen.

‘Atgofion melys iawn’

Bu John Elfed Jones, cyn-gadeirydd Dŵr Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg, yn gweithio efo Iolo Trefri am tua deng mlynedd.

“Mi gefais i’r pleser o fod mewn partneriaeth efo fo am tua deng mlynedd i gyd, pan ddaru ni ddechrau gwesty yn Sir Fôn,” meddai wrth golwg360.

“Dw i’n dwyn atgofion melys iawn, a’r hwyl oedden ni’n ei gael yn fan yno’n croesawu pobol.

“Yn ddi-os, roedd Iolo yn unigolyn.

“Roedd ei gariad o at Gymru yn fawr, ond at Sir Fôn yn anferthol.

“Roedd Iolo, efallai, yn well na neb yn gwybod beth oedd gwerth tir.

“Nid beth oedd pris tir, ond beth oedd gwerth tir, a doedd o ddim yn cadw hynny i’w hunan. Roedd o’n dosbarthu’i wybodaeth yn eang.”

‘Ffarmwr heb ei ail’

Ar ôl treulio ugain mlynedd yn paratoi, datblygodd Iolo Trefri frîd newydd o ddafad – yr easycare breed – sydd ond yn tyfu modfedd o wlân, ac felly does dim angen ei chneifio.

“Roedd ei ymroddiad o i’w filltir sgwâr yn amhrisiadwy, ac roedd parch roedd o wedi’i ennyn yn yr ardal, Sir Fôn a Chymru, yn ddi-stop,” meddai John Elfed Jones.

“Dyn arbennig iawn, cyfaill da a ffarmwr heb ei ail.

“Roedd hi’n bleser ei adnabod o, yn fraint i’w adnabod o fel ffrind, a dw i’n ymestyn fy nghydymdeimladau mwyaf diffuant a dwys i’r teulu.”