Mae’r BBC wedi ymddiheuro wrth deulu’r unigolyn oedd yng nghanol sgandal ynghylch cwynion yn erbyn y cyflwynydd Huw Edwards.
Daw ymddiheuriad y Gorfforaeth ynghylch y ffordd yr aethon nhw ati i ymchwilio i’r cwynion, yn dilyn cyhuddiadau nad oedden nhw wedi ymateb yn ddigon cyflym.
Cafodd y cyflwynydd ei gyhuddo gan deulu’r unigolyn o ymddygiad amhriodol, ond fe gymerodd hyd at saith wythnos i’r BBC gyflwyno’r cwynion i Huw Edwards.
Cafodd y Cymro Cymraeg ei gyhuddo o dalu miloedd o bunnoedd i unigolyn yn eu harddegau yn gyfnewid am luniau o natur rywiol.
Fis Gorffennaf y llynedd, fe wnaeth y BBC gomisiynu adolygiad o’u polisïau a gweithdrefnau ar gyfer cwynion y tu hwnt i benderfyniadau golygyddol.
Daeth yr adolygiad i’r casgliad fod angen mwy o gysondeb wrth ymdrin â chwynion, ar ôl iddi ddod i’r amlwg nad oedd y cwynion yn erbyn Huw Edwards wedi’u prosesu a’u cofnodi’n gywir fel bod modd i uwch-reolwyr weld yr ohebiaeth.
Doedd dim proses chwaith ar gyfer cysylltu â’r achwynydd a beth i’w wneud pe na bai modd cael gafael ar yr unigolyn.
Mae’r Gorfforaeth wedi derbyn pob argymhelliad ynghylch gwella prosesau, gan ddweud eu bod nhw’n gweithredu ar sail cynllun sydd yn ei le a’u bod nhw wedi ymddiheuro wrth yr achwynydd.