Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi newidiadau i Gyllideb 2024-25, wedi iddyn nhw dderbyn arian annisgwyl.

Dywed y Llywodraeth nad ydyn nhw fel rheol yn gwneud llawer o newidiadau rhwng y Gyllideb Ddrafft a’r Gyllideb derfynol, ond fod mwy o newidiadau nag arfer y tro hwn.

Y rheswm dros hynny yw fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi rhoi rhagor o fanylion i Lywodraeth Cymru dros yr wythnosau diwethaf am y cyllid canlyniadol y byddan nhw’n ei gael o ganlyniad i benderfyniadau sydd wedi’u gwneud i gynyddu gwariant mewn meysydd datganoledig yn Lloegr yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

Yn ôl Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn refeniw ychwanegol o £231m.

Newidiadau

Mae’r Gyllideb Derfynol yn nodi cynlluniau gwario refeniw a chyfalaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25, ac mae’n adlewyrchu newidiadau i’r Gyllideb Ddrafft gafodd eu cyhoeddi fis Rhagfyr y llynedd.

Mae gweinidogion Cymru wedi cytuno ar newidiadau i Gyllideb Derfynol 2024-25, yn unol â’r blaenoriaethau gafodd eu nodi yn y Gyllideb Ddrafft.

Mae’r blaenoriaethau hyn yn cynnwys diogelu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen craidd cymaint â phosibl, blaenoriaethu swyddi, sicrhau’r budd mwyaf i aelwydydd sy’n cael eu taro caletaf, ac ailffocysu cyllid i ffwrdd o feysydd sydd heb eu datganoli ac felly’r meysydd ddylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod yn eu hariannu.

Mae’r prif newidiadau ers y Gyllideb Ddrafft yn cynnwys:

  • £14.436m yn ychwanegol i awdurdodau lleol drwy’r setliad Llywodraeth Leol
  • £10.564m i adfer Cronfa’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol, gan wrthdroi’r gostyngiad a wnaed yn y Gyllideb Ddrafft
  • adfer £5m ar gyfer y Grant Plant a Chymunedau i wrthdroi’r ailflaenoriaethu a fu’n rhan o’r Gyllideb Ddrafft.
  • £5m i’r gyllideb atal ddigartrefedd a chymorth digartrefedd
  • £10m i gryfhau rhaglenni prentisiaeth a chyflogadwyedd, gan sicrhau cymorth i weithwyr dur os bydd Tata yn bwrw ymlaen â’u cynlluniau i gau’r ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot
  • £40m o gyllid cyfalaf newydd i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar gyfer gwaith cynnal a chadw
  • £5m yn ychwanegol ar gyfer y Grant Tai Cymdeithasol i gefnogi’r gwaith o gyflawni eu hymrwymiad i adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel i’w rhentu
  • £30m ar gyfer Morglawdd Caergybi
  • £20m i helpu busnesau bach a chanolig i ddiogelu eu busnesau yn y dyfodol

Angen buddsoddi yn ystadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol

Mae Conffederasiwn Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru wedi ymateb i’r Gyllideb Derfynol, gan ddweud eu bod nhw’n falch o glywed am y £40m ychwanegol ar gyfer gwaith cynnal a chadw, ond fod angen buddsoddiad “arwyddocaol” yn ystadau Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru.

“Bydd arweinwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn croesawu’r newidiadau i Gyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru 2024-25,” meddai’r Conffederasiwn.

“Mae’n amlwg fod y Llywodraeth wedi gwneud yr hyn a all o fewn cefndir ariannol heriol i wrando ar ein galwadau ynghylch ystadau a seilwaith y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a phenderfynyddion ehangach iechyd fel tai ac, yn hollbwysig, gofal cymdeithasol.

“Yn benodol, bydd y £40m ychwanegol i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar gyfer cynnal a chadw hanfodol a gwariant ataliol, dyraniadau pellach i awdurdodau lleol ac adfer y Gronfa Gweithlu Gofal Cymdeithasol yn ychwanegiadau i’w croesawu.

“Fel y cydnabyddir yn eang erbyn hyn, mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gofal cymdeithasol wedi’u cysylltu’n anochel, felly ni all un wella os yw’r llall yn ei chael hi’n anodd.

“Fodd bynnag, heb fuddsoddiad sylweddol yn ystadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a llawer mwy o ffocws ar atal, mae’r cronfeydd arian tymor byr hyn yn rhoi plaster ar ysbytai sy’n heneiddio ac sydd methu â chadw ar ben y lefelau eithriadol o alw am ofal brys ac argyfwng ac apwyntiadau wedi’u trefnu a llawdriniaethau.

“Er bod cyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn parhau i weithio’n galed i nodi effeithlonrwydd, mae pob rownd arall o weithredu diwydiannol yn costio miliynau i’r gwasanaeth.

“Oni bai ein bod ar y cyd yn datrys materion mwy o anghydfod undebau ynghylch cyflogau, a gwella iechyd y boblogaeth, dim ond hyn a hyn o bell y gall ymdrechion y Gwasanaeth Iechyd Gwladol fynd.”

‘Newidiadau i’w croesawu’ i dai cymdeithasol

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru hefyd wedi ymateb ac maen nhw wedi’u plesio fod rhai newidiadau i dai cymdeithasol, gan gynnwys £5m yn ychwanegol i’r Grant Tai Cymdeithasol, a £5m hefyd i’r gyllideb atal ddigartrefedd a chymorth digartrefedd.

“Mae’r gyllideb derfynol ar gyfer 2024/25 yn cynnwys rhai newidiadau i’w croesawu ar gyfer tai cymdeithasol,” meddai Stuart Ropke, Prif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru.

“Rydym wedi bod yn glir bod adeiladu cartrefi fforddiadwy yn rhan allweddol o bennu llwybr cynaliadwy allan o’r argyfwng tai yng Nghymru.

“Ni fu erioed yn anoddach i wneud hynny, gyda chwyddiant cost yn cyfyngu ar effaith buddsoddiad y llywodraeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

“Felly rydym yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi cynyddu’r cyllid Grant Tai Cymdeithasol o £5m o’r gyllideb ddrafft i ganiatáu i hyn ddigwydd.

“Ar hyn o bryd mae cymdeithasau tai Cymru yn adeiladu 70% o gartrefi cymdeithasol a bydd yr hwb ariannol hwn yn eu cefnogi i barhau â hyn.

“Mae hwn yn gynnydd i’w groesawu,” meddai wrth drafod y cynnydd i’r gyllideb atal ddigartrefedd a chymorth digartrefedd.

“Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cymaint o gyllid ychwanegol â phosibl yn cael ei ddyrannu i’r Grant Cymorth Tai.

“Roeddem yn glir yn y cyfnod cyn y cyhoeddiad hwn, pe na baem yn gweld setliad ariannu gwell ar gyfer y Grant Cymorth Tai, ni fyddai digon o gyllid i weithwyr rheng flaen gael eu talu’n deg ac mae’n debygol y byddem yn colli gwasanaethau ar adeg mae eu hangen nhw yn fwy nag erioed.

“Mae angen setliad ariannu cynaliadwy aml-flwyddyn ar wasanaethau digartrefedd a chymorth tai sy’n sicrhau bod y gwasanaethau hanfodol hyn a’u staff ymroddedig yn gallu parhau i gyflawni eu gwaith sy’n newid bywydau.”