Byddai camu’n ôl o’r Cytundeb Cydweithio â Llywodraeth Cymru’n gyfystyr â cherdded oddi wrth ffermwyr, yn ôl llefarydd materion gwledig Plaid Cymru.
Mewn cynhadledd i’r wasg ar amaethyddiaeth a’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, fe wnaeth Llŷr Gruffydd a Rhun ap Iorwerth, arweinydd y Blaid, amddiffyn rhan Plaid Cymru yn y Cytundeb Cydweithio.
Dywedodd Llŷr Gruffydd hefyd “na fydden ni yma heddiw oni bai am Brexit, ond fydden ni ddim yma chwaith pe bai’r hyn sy’n cael ei gynnig gan y Llywodraeth yn fwy tebygol o weithio”.
Mae disgwyl i ffermwyr gynnal protest ger y Senedd yfory (dydd Mercher, Chwefror 28) er mwyn mynegi eu hanfodlonrwydd.
Serch hynny, dywed trefnwyr rhai o’r protestiadau diweddar gan ffermwyr eu bod nhw wedi cael trafodaethau “adeiladol” â Llywodraeth Cymru ddechrau’r wythnos.
Mae’r undebau amaethyddol yn dadlau bod gofynion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, sy’n cynnwys sicrhau bod 10% o dir fferm wedi’i orchuddio â choed a bod 10% yn cael ei reoli fel cynefin, yn peryglu busnesau.
Mae pryderon hefyd ynglŷn â chlefyd y diciâu a chyfyngiadau ar storio a gwasgaru gwrtaith a slyri.
‘Yno i ganfod ateb’
Bod â phresenoldeb mewn trafodaethau ynglŷn â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy ydy’r ffordd orau o wneud gwahaniaeth, yn ôl gwleidyddion Plaid Cymru.
“Rydyn ni eisiau’r gorau i ffermwyr a’r amgylchedd, ac rydyn ni’n meddwl mai’r ffordd orau o lwyddo i wneud hynny ydy drwy fod o amgylch y bwrdd yn trio dylanwadu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy,” meddai Rhun ap Iorwerth.
“Rydyn ni wastad wedi bod ar ochr y Gymru wledig, fe wnaethon ni wneud hyn yn rhan o’r Cytundeb Cydweithio gan ein bod ni eisiau sefyll dros y Gymru wledig.”
Ychwanegodd Llŷr Gruffydd, llefarydd materion gwledig y Blaid, nad ydyn nhw “am neidio fyny a lawr o’r ochrau, gwneud sŵn a chwarae i’r bobol”.
“Dyna’r peth haws i’w wneud, bod yn boblogaidd ond heb wneud dim,” meddai.
“Dw i’n angerddol ein bod ni yno i ganfod ateb i hyn.
“Mae gan eraill fwy o ddiddordeb mewn dadlau nag atebion, ond dydyn ni ddim yn chwarae’r gêm honno oherwydd mae gormod yn y fantol.”
Dywedodd hefyd eu bod nhw wedi llwyddo i wneud rhai newidiadau i’r Cynllun, ond eu bod nhw’n dal i weithio ar elfennau eraill.
“Dydyn ni ddim am gerdded i ffwrdd; os ydyn ni’n camu’n ôl o’r bwrdd, yna fyddan ni’n cerdded oddi wrth ffermwyr Cymreig a’u cymunedau, a wna i ddim gwneud hynny.
“Fe wna i wneud popeth i aros rownd y bwrdd hwnnw a sicrhau ein bod ni’n cael cytundeb sy’n gweithio i bawb.”
‘Fydden ni ddim yma heb Brexit…’
Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fod y cynlluniau’n cael eu cyflwyno oherwydd bod ffermwyr wedi pleidleisio o blaid Brexit.
O ganlyniad i Brexit a cholli arian gan yr Undeb Ewropeaidd y cafodd y Cynllun newydd ei ddylunio, ond mae Llŷr Gruffydd hefyd yn pwysleisio bod amryw o ffactorau wedi dod ynghyd i ffurfio cryfder y teimlad sydd gan ffermwyr ar hyn o bryd.
“Fydden ni ddim yma heb Brexit, ond o ganlyniad i Brexit rydyn ni’n mynd o flwyddyn i flwyddyn heb wybod faint o arian fydd yn y pot y flwyddyn wedyn, mae’n gwneud hi’n anodd i’r llywodraeth gynllunio a datblygu’r cynllun, dw i’n cydnabod hynny,” meddai.
“Pan oedden ni yn yr Undeb Ewropeaidd, roedd rowndiau ariannu yn para saith mlynedd.
“Rydyn ni mewn sefyllfa anodd, ond dw i hefyd yn credu’n gryf nad ydy’r hyn sy’n cael ei gynnig ar y funud yn gweithio i ffermio.
“Os nad yw’n gweithio i ffermio, fydd o ddim yn gweithio i’r amgylchedd.”
Mae protestiadau gan ffermwyr wedi bod yn cael eu cynnal ledled Ewrop yn ystod y misoedd diwethaf.
“Dw i ddim yn rhoi o i gyd ar Brexit, mae llawer mwy iddo na hynny,” meddai Llŷr Gruffydd wedyn.
“Ond Brexit ydy’r cyd-destun sydd wedi arwain at greu’r Cynllun, a’r cyd-destun lle mae llai o arian i’w roi yn amaeth drwy gynlluniau fel hyn yn sgil penderfyniadau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i dorri’n ôl ar wariant,” meddai Rhun ap Iorwerth.
“Gall pethau fynd y ddwy ffordd; os ydy ffermwyr yn penderfynu peidio cymryd rhan yn y Cynllun, rydych chi’n colli’r effaith amgylcheddol gadarnhaol.
“Os ydyn nhw’n penderfynu nad ydyn nhw’n gallu aros ym myd ffermio mwyach, rydych chi’n dioddef effaith hynny ar gymuned wledig ledled Cymru.”
Cynigion Plaid Cymru
Bydd dwy ddadl yn ymwneud ag amaeth yn y Senedd yr wythnos hon – y gyntaf gan y Ceidwadwyr Cymreig ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a’r ail gan Blaid Cymru ar TB.
O ran y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, mae Plaid Cymru o’r farn y dylai Llywodraeth Cymru oedi ac adolygu, ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben ar Fawrth 7.
Mae eu pwyntiau’n cynnwys:
- nad ydy gofyn i bob fferm fyddai’n rhan o’r cynllun blannu coed ar 10% o’u tir yn cynnig yr hyblygrwydd fyddai’n caniatáu i bob math o wahanol ffermydd gwrdd â gofynion amgylcheddol. Maen nhw eisiau ystod ehangach o opsiynau yn hytrach na’r orfodaeth i blannu ar 10% o’r tir
- gormod o weithredoedd cynhwysol fyddai’n berthnasol i bob fferm dan y cynllun, byddai lleihau nifer y rheiny yn lleihau’r baich ar ffermwyr
- nad yw’r model ariannu’n rhoi digon o gymhelliad i ffermwyr gymryd rhan yn y cynllun.
Yn eu dadl ar y diciâu mewn gwartheg, byddan nhw’n galw ar Lywodraeth Cymru i newid y polisi difa ar ffermydd ar unwaith.
Ar hyn o bryd, mae’r polisi’n golygu bod gwartheg yn cael eu lladd o flaen ffermwyr yn aml.
Maen nhw hefyd am i Lywodraeth Cymru:
- gynnal gwerthusiad o reolaethau gwartheg cyfredol ar frys i bennu eu heffeithiolrwydd wrth atal a rheoli trosglwyddo clefydau
- sefydlu polisïau sy’n adlewyrchu bywyd gwyllt fel ffynhonnell haint ac sy’n caniatáu dulliau difa a rheoli priodol a gwyddonol dilys
- trafod gydag undebau a chynrychiolwyr eraill o’r sector amaeth i sefydlu ffordd newydd ymlaen wrth bennu polisi TB gwartheg Cymru