Mae mudiad Sustrans yn galw am gamau brys i ddiogelu’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Daw’r alwad gan y mudiad er mwyn sicrhau bod gan bobol Cymru fynediad at lwybrau cerdded a beicio diogel, yn dilyn adroddiad newydd sy’n dangos gwerth y rhwydwaith.
Rhwydwaith o lwybrau a ffyrdd arwyddedig ar draws y Deyrnas Unedig yw’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, ac mae’n cael ei ddefnyddio ar gyfer cymudo, hamdden a thwristiaeth.
Yn ôl yr adroddiad newydd, mae’r Rhwydwaith o fudd i fywydau pobol mewn sawl ffordd, gan gynnwys o ran lles ac iechyd, ac arian.
Ond mae Sustrans yn rhybuddio bod angen gweithredu ar frys i ddiogelu’r Rhwydwaith rhag effaith tywydd eithafol.
Manteision y rhwydwaith
Mae’r Rhwydwaith yn cynnwys ffyrdd di-draffig a ffyrdd â chyfraddau isel o draffig, ac mae’r rhan fwyaf yn cynnwys llwybrau sy’n cael eu defnyddio ar y cyd.
Mae bron i 60% o boblogaeth Cymru’n byw o fewn milltir i’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, ac mae’n rhedeg trwy bob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.
Cadarnhaodd y bobol gafodd eu holi fod y Rhwydwaith yn chwarae rôl “hynod o bositif yn eu hiechyd corfforol a meddyliol,” yn ôl Sustrans Cymru.
Dywedodd 83% o ddefnyddwyr y Rhwydwaith yn y Deyrnas Unedig ei fod yn gwella’u boddhad cyffredinol yn eu bywydau, a dywedodd 70% eu bod nhw’n defnyddio’r Rhwydwaith i wella’u lles.
Yn ôl amcangyfrifon, mae gweithgaredd corfforol ar y Rhwydwaith hefyd wedi atal bron i 600,000 o ddyddiau o salwch.
Yn ôl yr adroddiad, mae busnesau lleol i’r Rhwydwaith ar draws y Deyrnas Unedig wedi elwa hefyd, a hynny o ryw £1.7bn.
Tywydd gwael yn achosi niwed
Mae Sustrans yn rhybuddio bod angen cymryd camau brys i ddiogelu’r “ased pwysig” yma ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mae’r elusen yn dweud bod effaith tywydd eithafol yn arwain at broblemau sylweddol sy’n gallu cau ffyrdd yn gyfangwbl.
Mae llifogydd a thirlithriadau’n digwydd yn gyflym iawn, ac yn torri cysylltiadau rhwng cymunedau am gyfnodau sylweddol ar gost atgyweirio uchel.
Yn Wisemans Bridge yn Sir Benfro, mae rhan o Rwydwaith Beicio Cenedlaethol 4 wedi’i gau yn gyfangwbl yn dilyn tirlithriad mawr.
Yng Nghonwy, mae angen trawstiau newydd ar Bont Ddulas, yn dilyn difrod o ganlyniad i lifogydd diweddar.
Mae rhwystr arall wedi’i achosi gan dirlithriad wedi golygu bod rhan o Lwybr Ystwyth ar gau.
Buddsoddi
Yn ôl Christine Boston, Cyfarwyddwr Sustrans Cymru, mae angen buddsoddi i ddiogelu’r Rhwydwaith.
“Nid yw Rhwydwaith sy’n heneiddio yn gallu gwasanaethu anghenion y dyfodol, felly mae angen i ni fod yn rhagweithiol a buddsoddi mewn rhwystrau nawr cyn ei bod yn rhy hwyr,” meddai.
“Os nad ydyn nhw yn amddiffyn y Rhwydwaith nawr, byddan nhw’n colli’r holl fanteision cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd sydd mor bwysig i bobol Cymru.
“Rydym yn gweithio’n gadarnhaol efo Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ar hyd a lled y wlad i warchod, gwella, a sicrhau bod y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn parhau i wasanaethu pobol Cymru, ond mae yna frys yma i sicrhau nad ydym yn colli’r hyn mae’r Rhwydwaith yn ei roi i ni.”