Mae angen rhoi mwy o gyfleoedd i blant mewn ysgolion gwladol yng Nghymru chwarae criced, yn ôl un cricedwr gafodd ei addysg mewn ysgol Gymraeg yng Nghaerdydd.

Yn Ysgol Glantaf y cafodd Tegid Phillips ei addysg.

Ar ôl cyfnod yn rhengoedd Morgannwg, mae’r troellwr bellach yn chwarae i Siroedd Cenedlaethol Cymru ac yn cael ei noddi gan golwg360.

Mae’n dweud ei fod e’n “eitha ffodus” yn yr ysgol fod ganddo fe athro Addysg Gorfforol oedd yn mwynhau criced, ond nid dyna sefyllfa llawer o ddisgyblion mewn ysgolion Cymraeg.

Ar y cyfan, daw llawer o’r cyfleoedd i chwarae criced o safon uchel drwy glybiau a chynghreiriau lleol, gydag ysgolion wedi’u cyfyngu yn ôl tymhorau’r flwyddyn academaidd fel mai mis neu ddau o griced sy’n cael ei chwarae yn ystod tymor yr haf.

“Yn bersonol, roeddwn i’n eitha ffodus achos roedd ein hathro Addysg Gorfforol ni yn rili mwynhau criced, ac yn trial cael gemau i ni pryd bynnag oedd yn bosib,” meddai wrth golwg360.

“Ond fi’n credu, yn gyffredinol ar draws ysgolion, mae angen mwy o sylw i roi mwy o gyfle i blant i allu chwarae criced.

“Roeddwn i’n ffodus yn yr ysgol, yn chwarae un neu ddwy gêm bob wythnos yn ystod tymor yr haf, ac yn cael cyfle i ymarfer unwaith bob wythnos.

“Yn bersonol, roeddwn i’n chwarae i glwb hefyd [Caerdydd], achos roeddwn i’n rili mwynhau chwarae ac yn trial chwarae gymaint â phosib.”

Cyfrifoldeb pwy?

Ond un cwestiwn sydd heb ei ateb hyd yn hyn yw cyfrifoldeb pwy yw sicrhau’r cyfleoedd i blant Cymru chwarae criced fel y gallan nhw gyrraedd y lefel uchaf.

Mae Bwrdd Criced Cymru a Lloegr wedi mynd ati i sefydlu gweithgor i drafod y pwnc, yn y gobaith o adfywio criced mewn ysgolion gwladol yng Nghymru a Lloegr.

Cafodd y gweithgor ei sefydlu fel rhan o ymateb i gomisiwn annibynnol, oedd wedi argymell bod angen gwneud criced yn fwy cynhwysol i bawb, waeth ble gawson nhw eu haddysg.

Fe wnaeth y Comisiwn argymell hefyd y dylid sefydlu Cynllun Gweithredu ar gyfer Ysgolion Gwladol.

Ymhlith aelodau’r gweithgor mae Mark Rhydderch-Roberts, cadeirydd Clwb Criced Morgannwg; a’r cyn-chwaraewyr Jimmy Anderson, Chris Jordan a Lydia Greenway.

Yn ymuno â nhw mae Syr Michael Barber, cadeirydd Gwlad yr Haf, ynghyd â’r gwleidydd Llafur Ed Balls, cynrychiolwyr o fudiadau Chance to Shine a’r Youth Sports Trust, a buddsoddwyr yn y gamp.

Mae Ed Balls yn un sydd wedi bod yn hybu’r gamp eisoes yn rhinwedd ei rôl fel gwleidydd ac aelod seneddol, ac yntau wedi chwarae i dîm criced Tŷ’r Cyffredin ar hyd y blynyddoedd.

Pan oedd e’n Ysgrifennydd Ysgolion yn y Llywodraeth Lafur, fe fu’n hybu “manteision iechyd amlwg” y gamp, gan ddweud y gallai gael effaith ledled y cwricwlwm.

Fe wnaeth e ymrwymo i glustnodi £21m ar gyfer colegau chwaraeon er mwyn gwella cyfleusterau.

‘Angen buddsoddiad ac amser’

Sefydlu cystadleuaeth rhwng ysgolion Cymru yw un ateb posib i’r sefyllfa, yn ôl Tegid Phillips, sy’n dweud bod angen rhannu’r cyfrifoldeb o sicrhau mwy o gyfleoedd i chwarae criced yn yr ysgol.

Tra byddai cystadleuaeth o’r fath yn cael ei threfnu gan awdurdodau uwch, byddai rhywfaint o gyfrifoldeb ar ysgolion i sicrhau’r cyfleoedd yn ystod tymor yr ysgol.

“Mae’n anodd dweud pwy fydd yn gyfrifol am sefydlu cyfleoedd fel hyn mewn ysgolion, achos bydd angen buddsoddiad ac amser i sefydlu rhyw fath o gystadleuaeth rhwng ysgolion,” meddai wedyn.

Mae Tegid Phillips yn un o’r chwaraewyr prin hynny o’r ysgolion Cymraeg sydd wedi cynrychioli Morgannwg dros y blynyddoedd diwethaf.

Ymlith y rhai eraill sydd wedi cynrychioli’r sir yn gymharol ddiweddar mae Owen Morgan, gafodd ei addysg yn Ysgol y Strade yn Llanelli, a Dewi Penrhyn Jones o Ysgol Morgan Llwyd yn Wrecsam.

“Does dim digon o siaradwyr Cymraeg wedi cyrraedd y lefel uchaf,” yn ôl Tegid Phillips.

“Galla i feddwl am rai, ond mae’n bosib dadlau dim digon.

“Mae’n anodd i blant mewn ysgolion Cymraeg i gael arwyr i Forgannwg am ddau reswm.

“Yn gyntaf, achos cyn lleied o chwaraewyr Morgannwg sydd yn siarad Cymraeg ar y foment.

“Ond hefyd, achos bod llai o gyfleoedd i chwarae criced mewn ysgolion Cymraeg.

“Mae nifer fawr o chwaraewyr proffesiynol heddiw yn dod o ysgolion preifat, ac mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn Lloegr ac felly dyw’r defnydd o’r Gymraeg ddim yna.”

Criced Cymru

Cymreigio a chynnal Cymreictod criced ledled Cymru

Gareth Lanagan

Bydd grŵp newydd yn sicrhau bod criced yng Nghymru yn parhau i fod mor berthnasol ag erioed i Gymry Cymraeg, gan annog clybiau i ddefnyddio’r Gymraeg

Llongyfarchiadau Llandysul!

Alun Rhys Chivers

A hwythau’n dod o ysgolion ardal Llandysul a Chaerfyrddin, mae gan dîm Llandysul ethos cwbl Cymraeg