Mae dyn ag anableddau dysgu wedi’i gael yn euog o sarhau pêl-droediwr Casnewydd yn hiliol.

Sgoriodd Omar Bogle ddwy gôl i’r Alltudion yn erbyn Gillingham ar Hydref 28 y llynedd, ond ar ôl sgorio’r gôl gyntaf, cafodd ei sarhau’n hiliol gan Ben Burchell, 28, oedd wedi gwneud stumiau mwnci ar ôl rhedeg tuag ato.

Mae e wedi osgoi cael gorchymyn gwahardd rhag mynd i gemau, ond bydd yn rhaid iddo fe gwblhau 40 awr o waith yn y gymuned.

Plediodd yn euog i’r cyhuddiad pan aeth gerbron ynadon ym Medway yng Nghaint.

Clywodd y llys fod ganddo fe ddyspracsia ac awtistiaeth ddifrifol, a’i fod yn mynd i gemau gyda gofalwr fel arfer, ond ei fod ar ei ben ei hun ar y diwrnod dan sylw.

Bydd yn rhaid iddo fe dalu £200 i’r chwaraewr, a fydd e ddim yn cael mynd i gemau ar ei ben ei hun am gyfnod o ddeuddeg mis.