Mae tîm criced dinesig y Tân Cymreig wedi cyhoeddi rhestr o 19 o chwaraewyr timau’r dynion a menywod y byddan nhw’n eu cadw ar gyfer tymor Can Pelen 2024.
Yn eu plith mae Jonny Bairstow, Tammy Beaumont, Haris Rauf, Hayley Matthews, Sophia Dunkley, Shabnim Ismail, Georgia Elwiss, David Willey a Joe Clarke.
Mae naw lle i’w llenwi, felly, pan fydd y Drafft yn cael ei gynnal ar Fawrth 20, gyda phob tîm yn eu tro yn dewis chwaraewyr domestig a thramor i gwblhau eu rhestrau.
Bydd y Tân Cymreig yn dechrau eu hymgyrch yn erbyn Manchester Originals yn Old Trafford ar Orffennaf 25, a bydd eu gêm gartref gyntaf dridiau’n ddiweddarach yn erbyn yr Oval Invincibles yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd.
Tammy Beaumont fydd yn arwain tîm y menywod, gyda Tom Abell wrth y llyw gyda’r dynion.
Y chwaraewyr sydd wedi’u cadw
Dyma’r chwaraewyr sydd wedi’u cadw ar gyfer 2024:
Hayley Matthews (tramor), Sophia Dunkley, Shabnim Ismail (tramor), Tammy Beaumont, Georgia Elwiss, Sarah Bryce, Freya Davies, Emily Windsor
Jonny Bairstow, David Willey, Joe Clarke, Haris Rauf (tramor), Tom Abell, Glenn Phillips, David Payne, Luke Wells, Roelof Van der Merwe, Stephen Eskinazi, Chris Cooke
Bydd tocynnau ar gael i brynwyr blaenorol rhwng Mawrth 13-27, a blaenoriaeth arbennig i gefnogwyr sy’n cofrestru ymlaen llaw rhwng Ebrill 9-23.
Bydd tocynnau ar werth i’r cyhoedd o Ebrill 25, ac yn costio o leiaf £11 i oedolion a £5 i blant, a bydd yr holl gemau’n cael eu darlledu naill ai ar Sky Sports neu’r BBC, ar deledu ac yn ddigidol.