Ar ôl cael ei phenodi’n rheolwr ar dîm pêl-droed menywod Cymru, mae Rhian Wilkinson wedi bod yn egluro’i gwreiddiau Cymreig.
Cynrychiolodd hi Ganada 183 o weithiau ar y cae, gan gynnwys Cwpan y Byd bedwar gwaith a’r Gemau Olympaidd dair gwaith.
Bu’n hyfforddi ers iddi ymddeol o’r cae chwarae yn 2017.
Roedd ei swydd fwyaf diweddar yn Portland Thorns yn nhalaith Oregon yn yr Unol Daleithiau, lle gwnaeth hi arwain y Thorns i fuddugoliaeth ym Mhencampwriaeth Bêl-droed Genedlaethol y Menywod yn 2022.
Roedd hi hefyd yn rheolwr ar dimau dan 17 a dan 20 Canada, ac yn is-hyfforddwr timau Loegr, y Deyrnas Unedig yng Ngemau Olympaidd 2011, a Chanada yng Nghwpan y Byd yn 2019.
Bydd hi wrth y llyw yn y gemau ym mis Ebrill, pan fydd ymgyrch ragbrofol Ewro 2025 yn dechrau.
Teulu ei mam yn hanu o Fro Morgannwg
“Mae’n braf bod mewn gwlad lle gall pobol ynganu fy enw, sydd heb fod yn wir yng Nghanada a’r Unol Daleithiau,” meddai Rhian Wilkinson wrth gyfarfod â’r wasg.
“Cymraes yw fy mam, aeth hi i Ysgol y Bont-faen.
“Bu’n byw yn Llanilltud Fawr, a chafodd ei magu yn Nhresimwn.
“Sais yw fy nhad.
“Ces i fy ngeni yng Nghanada.
“Fe wnaethon nhw gymryd cyfnod sabothol – athrawon oedden nhw – a daethon nhw â ni yn ôl i’r Bont-faen ac es i Ysgol y Bont-faen gyda fy mrawd a chwaer.
“Roedd fy mam-gu a thad-cu yn byw yn y Bont-faen ar ôl iddyn nhw symud o Lanilltud Fawr.
“Mae gen i gefnder yng Ngabalfa yng Nghaerdydd, ac un arall ym Mhenarth gyda fy ewythr a modryb, felly mae llawer o’r teulu yma.
“Mae gen i deulu yn Lloegr hefyd.
“Un o Ganada ydw i, ond Cymru oedd fy ail gartref erioed ac mae hon yn teimlo fel eiliad o gau’r cylch wrth ddod ‘adref’ ar gyfer y swydd hon
“Dw i ddim yn meddwl bod fy mam erioed wedi bod yn fwy balch.”
"Wales has always been my second home and it feels very much like a full circle moment coming home for this job." 🏡♥️#CroesoRhian | #TogetherStronger pic.twitter.com/vrpkTMwevk
— Wales 🏴 (@Cymru) February 29, 2024