Mae Clwb Criced Morgannwg wedi denu Mir Hamza, bowliwr llaw chwith 31 oed o Bacistan, ar gyfer saith gêm Bencampwriaeth gynta’r tymor.

Fe fu’r sir yn chwilio am chwaraewr tramor i olynu Michael Neser, sydd wedi symud i Hampshire.

Mae Mir Hamza wedi chwarae mewn pum gêm brawf dros ei wlad, gyda’i berfformiad gorau – pedair wiced am 32 – yn dod yn erbyn Awstralia ar Ddydd San Steffan y llynedd.

Mae e wedi cipio 434 o wicedi dosbarth cyntaf ar gyfartaledd ychydig dros 22, a chyfartaledd o 29 mewn gemau ugain pelawd, gyda pherfformiad gorau o bedair wiced am naw rhediad.

Bydd yn ailymuno â’i hen hyfforddwr Grant Bradburn, prif hyfforddwr newydd Morgannwg fu’n gweithio i Bacistan yn ddiweddar.

‘Dechrau positif i’r tymor’

Dywed Mir Hamza ei fod e’n edrych ymlaen at “ddechrau positif i’r tymor”.

“Dw i wrth fy modd o gael ymuno â Morgannwg ar gyfer Pencampwriaeth y Siroedd yr haf yma,” meddai.

“Bydd hi’n gyffrous cael gweithio gyda Grant eto, ar ôl gweithio gyda fe gyda Phacistan, ac alla i ddim aros i ymuno â’r garfan, dechrau ymarfer a helpu’r clwb gwych hwn i wthio am ddechrau positif i’r tymor.

“Dw i wedi clywed cynifer o bethau gwych am Gaerdydd gan fy nghyd-chwaraewyr oedd wedi chwarae yno haf diwethaf, a dw i’n edrych ymlaen at gwrdd â’r holl gefnogwyr.”

‘Perfformiwr profiadol’

“Fel hyfforddwr, dw i wedi cyffroi ar ran ein grŵp o gael ychwanegu Mir Hamza, y fath berfformiwr profiadol,” meddai Grant Bradburn.

“Ar ôl gweithio gyda Mir cyn hyn ym Mhacistan, dw i’n llwyr hyderus y bydd Mir yn ychwanegu gwerth enfawr i’n tîm ar y cae ac oddi arno.”

Yn ôl Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg, mae’n “newyddion gwych” eu bod nhw wedi denu Mir Hamza atyn nhw.

“Mae e’n fowliwr rhyngwladol â record arbennig a phrofiad blaenorol o chwarae criced sirol [mewn naw gêm i Sussex yn 2019],” meddai.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at ei groesawu i Gaerdydd.”