Ar ôl denu Mir Hamza o Bacistan, mae Clwb Criced Morgannwg wedi cyhoeddi bod Mason Crane, cyn-droellwr coes Lloegr, yn ymuno â’r sir ar fenthyg o Hampshire am dymor cyfan.

Daeth ei gêm gyntaf dros Loegr yn erbyn De Affrica yng Nghaerdydd yn 2017, wrth iddo fe gipio wiced AB de Villiers.

Daeth ei gêm brawf gyntaf dros Loegr yn erbyn Awstralia yn Sydney yng Nghyfres y Lludw.

Mae e hefyd yn chwaraewr profiadol mewn gemau ugain pelawd ar draws y byd, gan gynnwys London Spirit yn y Can Pelen.

Mae ganddo fe gyfartaledd fowlio ychydig dros 24 mewn gemau ugain pelawd.

‘Diolchgar iawn’

Dywed Mason Crane ei fod yn “ddiolchgar iawn am y cyfle” i chwarae i Forgannwg.

“Dw i wedi cyffroi’n fawr iawn o gael dechrau gweithio a gwthio am dymor llwyddiannus gyda’r tîm,” meddai.

Yn ôl Grant Bradburn, prif hyfforddwr Morgannwg, ei nod yw adeiladu “carfan gytbwys” o chwaraewyr er mwyn “ennill mewn sawl ffordd”.

“Bydd sicrhau chwaraewr o safon a phrofiad Mason yn sicr yn ychwanegiad brawf iawn at y strategaeth honno,” meddai.

“Mae Mason yn ymuno â ni ag enw da iawn a record dosbarth cyntaf y tu ôl iddo fe, ac rydyn ni’n anelu at roi’r amgylchfyd a’r cyfle i Mason ffynnu ym Morgannwg.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu Mason i’n carfan wrth i ni geisio gosod trywydd newydd ar gyfer llwyddiant.”

‘Sgiliau ymosodol ym mhob fformat’

“Rydyn ni wrth ein boddau fod Mason wedi cytuno i ymuno â ni ar drosglwyddiad hirdymor ar fenthyg ar gyfer y tymor,” meddai Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg.

“Mae e’n chwaraewr o safon uchel sy’n rhoi sgiliau ymosodol i ni ym mhob fformat.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at ei groesawu fe i ymarferion cyn dechrau’r tymor dros yr wythnosau i ddod.”