Sam Northeast a Kiran Carlson fydd capteniaid Clwb Criced Morgannwg ar gyfer tymor 2024.
Bydd Northeast yn arwain y tîm yn y Bencampwriaeth, gyda Carlson wrth y llyw ar gyfer gemau undydd.
Sgoriodd Northeast, sy’n 34 oed, gyfanswm o 1,990 o rediadau ar draws yr holl gystadlaethau y tymor diwethaf, gan ennill gwobr Chwaraewr y Flwyddyn y sir am ei berfformiadau.
Mae’r penodiad yn golygu ei fod e’n cael parhau â’r anrhydedd o gael ei enwi’n gapten ar bob sir y chwaraeodd e iddyn nhw yn ystod ei yrfa.
Torrodd e record Steve James am y sgôr dosbarth cyntaf gorau erioed i’r sir (309), pan sgoriodd e 410 heb fod allan yn erbyn Swydd Gaerlŷr yn Llandrillo yn Rhos.
Fe sydd â’r record Rhestr A am y sgôr gorau erioed i’r sir hefyd, gyda 177 heb fod allan yn erbyn Swydd Gaerwrangon.
Sgoriodd e ddau ganred yn y Bencampwriaeth ac un yng Nghwpan Metro Bank y tymor diwethaf.
Dywed ei bod yn “anrhydedd a braint enfawr” cael arwain Morgannwg, gan adeiladu ar waith David Lloyd, sydd wedi ymuno â Swydd Derby.
Dywed mai’r nod yw ennill dyrchafiad i Adran Gynta’r Bencampwriaeth, a “chwarae dull cyffrous o griced ar y droed flaen, gyda chyfuniad da o ieuenctid a phrofiad”.
“Allwn ni ddim aros i’r tymor ddechrau, a dw i’n edrych ymlaen at weld yr holl gefnogwyr Cymreig yn y stadiwm,” meddai.
Kiran Carlson
Kiran Carlson o Gaerdydd oedd wrth y llyw pan enillodd Morgannwg y gwpan 50 pelawd yn 2021.
Bydd e hefyd wrth y llyw ar gyfer gemau ugain pelawd y Vitality Blast.
Sgoriodd e 1,000 o rediadau yn y Bencampwriaeth am y tro cyntaf y tymor diwethaf, ac roedd e’n allweddol mewn nifer o gemau undydd hefyd.
Sgoriodd e 392 o rediadau wrth agor y batio yn y gystadleuaeth ugain pelawd, ac roedd ganddo fe gyfradd sgorio dros 170.
Dywed ei bod yn “anrhydedd” cael ei benodi’n gapten ar “adeg gyffrous” i’r garfan.
“Mae gyda ni gryn ddoniau a gallu yn ein carfan, a bydd hi’n wych cael y cyfle i fynd allan fel capten am ran o’r tymor,” meddai.
‘Arweinwyr naturiol’
Dywed y prif hyfforddwr Grant Bradburn fod gan Forgannwg “nifer o arweinwyr naturiol”.
“Gyda Sam a Kiran, bydd gan ein grŵp ddau chwaraewr uchel iawn eu parch yn ychwanegu gwahanol sgiliau wrth arwain ein llwyddiant a’n twf parhaus, wrth i’n tîm geisio symud i gyfeiriad newydd.
“Dw i’n edrych ymlaen at gydweithio â’n capteniaid newydd, gan eu grymuso nhw a’u helpu nhw i arwain ar flaen y gad gyda pherfformiadau buddugol.”