I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, gall cefnogwyr Clwb Pêl-droed Abertawe argraffu enw eu hoff chwaraewr Cymru sy’n chwarae i’r clwb yn rhad ac am ddim ar grys yr Elyrch.

Dywed yr Elyrch eu bod nhw’n falch o’r chwaraewyr hynny sydd wedi mynd yn eu blaenau i gynrychioli’r wlad ar y llwyfan rhyngwladol.

Er mwyn manteisio ar y cynnig, mae’n rhaid i gefnogwyr brynu crys newydd, gyda chrysau cartrefi, oddi cartref a thrydydd cit ar gael yn siop y clwb.

Mae modd prynu crysau yn y siop neu ar-lein, ac mae 30% oddi ar gynnyrch ar hyn o bryd.

Y chwaraewyr sydd ar gael i ddewis o’u plith yw Ben Cabango (5), Joe Allen (7), Liam Cullen (20), Ollie Cooper (31), Ben Lloyd (36), Kit Margetson (39), Sam Parker (41), Evan Watts (43), Josh Thomas (44), Cameron Congreve (45), Ben Hughes (46), Joel Cotterill (48), Claire Skinner (1), Alicia Powe (2), Ellie Lake (5), Chloe Bull (7), Rachel Cullen (8), Chloe Chivers (10), Katy Hosford (11), Stacey John-Davis (12), Sophie Brisland-Hancocks (16) a Jess Williams (23).