Mae’n debygol erbyn hyn na fydd Luke Williams, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn gadael y clwb.

Fe fu adroddiadau mai’r Sais yw’r ffefryn ar gyfer swydd rheolwr West Brom.

Wrth i’r adroddiadau fagu coesau, dydy Williams ddim wedi ymbellhau oddi wrth y swydd wrth gael ei holi gan y wasg sawl gwaith.

Mae West Brom yn chwilio am reolwr newydd yn dilyn ymadawiad Carlos Corberan dros y Nadolig.

Ond does dim awgrym fod y clwb wedi cysylltu ag Abertawe i ofyn am ganiatâd i gyfweld â Williams.

Serch hynny, ac er gwaethaf adroddiadau yng nghanolbarth Lloegr nad oes gan West Brom ddiddordeb ynddo fe bellach, mae’n dal i fod yn ffefryn ymhlith y bwcis.

Mae lle i gredu bod Luke Williams wedi trafod y sefyllfa â pherchnogion Abertawe, a bod ganddyn nhw bryderon nad oedd e wedi ymbellhau oddi wrth y swydd y cyfle cyntaf gafodd e.

West Brom yw gwrthwynebwyr nesa’r Elyrch fory (dydd Sadwrn, Ionawr 4).

Un arall oedd yn cael ei gysylltu â’r swydd tan yn ddiweddar yw Steve Cooper, cyn-reolwr yr Elyrch.