Mae amheuon am ffitrwydd Aaron Ramsey cyn gemau rhagbrofol Cymru ar gyfer Cwpan y Byd.

Dydy’r chwaraewr canol cae 34 oed ddim wedi chwarae ers anafu llinyn y gâr yng ngêm Cymru yn erbyn Montenegro fis Medi.

Fe ddychwelodd i’r cae ymarfer gyda Chaerdydd fis Tachwedd, ond fe gafodd e anaf arall yn fuan wedyn.

Ond bellach, mae amheuon na fydd e’n holliach erbyn y gêm yn erbyn Kazakhstan ar Fawrth 22.