Mae Clwb Pêl-droed Abertawe’n llygadu’r Cymro Joe Low, ac fe allen nhw wneud cynnig am yr amddiffynnwr canol pe na bai Harry Darling yn llofnodi cytundeb newydd, yn ôl adroddiadau.
Mae Low, sy’n 22 oed ac yn chwarae i Wycombe, wedi ennill dau gap dros Gymru.
Daw cytundeb Darling i ben ar ddiwedd y tymor, sy’n golygu y gallai adael yn rhad ac am ddim.
Mae Low wedi chwarae ym mhob un o 25 gêm Wycombe yn yr Adran Gyntaf y tymor hwn, ac mae adroddiadau eu bod nhw eisoes wedi gwrthod cynnig gan yr Elyrch amdano.
Mae Abertawe’n brin o opsiynau yng nghanol yr amddiffyn, yn enwedig wrth i Nelson Abbey baratoi i ddychwelyd i Panathinaikos ar ôl chwarae un gêm gwpan yn unig i’r Elyrch ar fenthyg.
Mae Ben Cabango wedi ymrwymo i Abertawe ar ôl llofnodi cytundeb newydd.