Mae aelod seneddol Gŵyr yn galw ar dîm criced dynion Lloegr i wrthod chwarae yn erbyn Affganistan, yn sgil y ffordd mae’r wlad yn trin menywod a merched.

Mae Lloegr ymhlith y timau cenedlaethol fydd yn cystadlu yn Nhlws Pencampwyr yr ICC ym Mhacistan a’r Emiradau Arabaidd Unedig fis nesaf.

Mae disgwyl i’r Saeson herio Affganistan yn ninas Lahore ym Mhacistan ar Chwefror 26.

Ond mae’r llythyr gan wleidyddion yn San Steffan yn beirniadu “gormes afresymol yn erbyn menywod a merched” gan y Taliban, gan ddweud bod ganddyn nhw “bryderon dwys” am y sefyllfa.

Ymhlith yr aelodau seneddol a gwleidyddion eraill o Gymru sydd wedi llofnodi’r llythyr mae Ruth Jones (Llafur, Gorllewin Casnewydd ac Islwyn), Catherine Fookes (Llafur, Sir Fynwy), Ann Davies (Plaid Cymru, Caerfyrddin), Ben Lake (Plaid Cymru, Ceredigion Preseli), y Farwnes Debbie Wilcox, yr Arglwydd Peter Hain, yr Arglwydd Leslie Griffiths, yr Arglwydd Neil Kinnock

Dywed y llythyr mai gwahardd menywod rhag cymryd rhan mewn chwaraeon oedd un o weithredoedd cynta’r Taliban ar ôl iddyn nhw gipio grym fis Awst 2021.

“Fe wnaethon nhw gynnal cyrch ar gartrefi athletwyr benywaidd, a chafodd rhai ohonyn nhw eu gorfodi i losgi eu cit er mwyn osgoi cael eu hadnabod,” medd y llythyr.

Noda’r llythyr fod y tîm wedi dod i ben yn sgil hynny, gyda nifer o’r aelodau’n ffoi o’r wlad.

Yn ogystal â bod yn “foesol ffiaidd”, meddai, roedd yn groes i reolau’r Cyngor Criced Rhyngwladol, sy’n nodi bod yn rhaid i lywodraethau pob un o’r gwledydd sy’n chwarae criced ariannu tîm menywod.

Tra bod dynion yn Affganistan yn cael chwarae o hyd, does gan fenywod yn y wlad mo’r un hawl, meddai, a dydy’r awdurdodau criced ddim wedi cosbi’r wlad o ganlyniad, ac mae menywod a merched wedi colli’r hawl i ddysgu sut i chwarae criced – rhywbeth sy’n “warthus”, medd y llythyr.

‘Cyfle gwerthfawr’

“Dydy Bwrdd Criced Cymru a Lloegr ddim yn ddall i’r ffieidd-dra yma,” meddai’r llythyr wedyn.

“Y llynedd, fe wnaethoch chi gadarnhau na fyddai Lloegr yn trefnu cyfres ddeuol yn erbyn Affganistan tra bod menywod wedi’u gwahardd o chwaraeon.

“Nawr, gyda gêm rhwng Lloegr ac Affganistan wedi’i hamserlennu yn Nhlws y Pencampwyr fis nesaf, mae gennych chi gyfle gwerthfawr i ymestyn yr egwyddorion hynny a chondemnio’r gormes ffiaidd yma.”

Mae’r llythyr yn annog chwaraewyr a swyddogion i “godi llais” yn erbyn y ffordd mae’r Taliban yn trin menywod a merched, ac i ystyried boicot er mwyn anfon “neges gref” o “solidariaeth”.