Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi mai Rhian Wilkinson yw rheolwr newydd tîm pêl-droed menywod Cymru.
Mae hi wedi llofnodi cytundeb fydd yn ei chadw hi yn y swydd tan o leiaf 2027.
Cynrychiolodd hi Ganada 183 o weithiau ar y cae, gan gynnwys Cwpan y Byd bedwar gwaith a’r Gemau Olympaidd dair gwaith.
Cymraes yw ei mam, a threuliodd hi rywfaint o amser yn byw yn y de pan oedd hi’n blentyn.
Bu’n hyfforddi ers iddi ymddeol o’r cae chwarae yn 2017.
Roedd ei swydd fwyaf diweddar yn Portland Thorns yn nhalaith Oregon yn yr Unol Daleithiau, lle gwnaeth hi arwain y Thorns i fuddugoliaeth ym Mhencampwriaeth Bêl-droed Genedlaethol y Menywod yn 2022.
Roedd hi hefyd yn rheolwr ar dimau dan 17 a dan 20 Canada, ac yn is-hyfforddwr timau Loegr, y Deyrnas Unedig yng Ngemau Olympaidd 2011, a Chanada yng Nghwpan y Byd yn 2019.
Bydd Rhian Wilkinson yn Nulyn nos fory (dydd Mawrth, Chwefror 27) ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon, ac yna’n rheoli’r tîm yn y gemau ym mis Ebrill, pan fydd ymgyrch ragbrofol Ewro 2025 yn dechrau.
‘Anrhydedd’
Yn ôl Rhian Wilkinson, mae’n “anrhydedd” cael ei phenodi i’r swydd.
“Mae’r tîm wedi mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd diwethaf, ac rwy’n bwriadu adeiladu ar hynny efo’r nod o gyrraedd pencampwriaeth Ewros UEFA haf nesaf ac yn y dyfodol.
“Mae’r grŵp yma o chwaraewyr yn barod ac yn haeddu cyrraedd pencampwriaeth ryngwladol, ac rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â nhw a gweithio gyda nhw.
“Cymraes yw fy mam, ac fe wnes i fyw yn ne Cymru am ran o fy mhlentyndod.
“Rwy’n edrych ymlaen at ymrwymo fy hun i ddiwylliant Cymru, a dysgu mwy am ochr yna fy etifeddiaeth.
“Mae’n anrhydedd enfawr i dderbyn swydd rheolwr Cymru.”
‘Rhoi Cymru ar ben y byd’
“Rwy’n hynod falch o groesawu Rhian i Gymdeithas Bêl-droed Cymru’n rheolwr ar ein tîm menywod,” meddai Steve Williams, Llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
“Ar ôl gweld y tîm yn cryfhau a datblygu dros y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni nawr yn edrych ymlaen at weld y cam nesaf wrth i’r tîm geisio rhoi Cymru ar ben y byd wrth gyrraedd pencampwriaeth ryngwladol am y tro cyntaf.”
‘Cam nesaf y daith’
Mae Dr David Adams, Pennaeth Pêl-droed Cymdeithas Bêl-droed Cymru, hefyd wedi croesawu ei phenodiad.
“Roedden ni wedi trefnu proses drwyadl i ddod o hyd i’n rheolwr newydd, ac roedd safon yr ymgeiswyr o’r radd flaenaf.
“Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cymryd camau enfawr i dyfu gêm y merched yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf, a bydd penodiad Rhian yn ein rhoi ni yn y lle gorau posib i gyrraedd pencampwriaeth yr Ewros haf nesaf, ac yn y blynyddoedd i ddod.
“Bydd cyrraedd pencampwriaeth ryngwladol yn codi pêl-droed merched yng Nghymru i’r lefel nesaf, ac rwy’n edrych ymlaen at ddechrau’r cam nesaf ar y daith.”