Fydd dim modd i blant dan 16 oed fynd i gêm ddarbi leol rhwng timau pêl-droed Briton Ferry Llansawel a Lido Afan heb oedolyn.

Byddan nhw’n herio’i gilydd ym Mhencampwriaeth y De nos Wener (Mawrth 1).

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, mae Clwb Pêl-droed Lido Afan yn dweud bod “y ddau glwb yn cyd-sefyll wrth sicrhau diogelwch yr holl gefnogwyr sy’n mynychu gemau”.

Maen nhw’n rhybuddio cefnogwyr i osgoi ymddygiad “amharchus, ymfflamychol neu gynhyrfus”, ac yn dweud na fyddan nhw’n goddef “trais, bygythiadau nac ymddygiad amhriodol”.

Maen nhw’n dweud eu bod nhw wedi gwneud y penderfyniad ynghylch mynediad i blant ar sail cyngor gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru a Heddlu’r De.

“Bydd unrhyw un sy’n ceisio achosi trafferth yn cael eu trin yn briodol gan bawb,” medden nhw.

Deddfwriaeth

Daw’r rhybudd wrth i Kevin Brennan, yr Aelod Seneddol Llafur dros Orllewin Caerdydd, gyhoeddi erthygl yn hybu deddfwriaeth newydd i gadw cefnogwyr pêl-droed yn ddiogel.

Dywed ei fod e wedi mynd ati i geisio deddfwriaeth ar ôl cael gwybod nad yw ceisio mynediad heb docyn i gemau pêl-droed yn drosedd.

Fis Rhagfyr y llynedd, fe wnaeth y Pwyllgor Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yn San Steffan gefnogi’r angen am ddeddfwriaeth.

“O dan y ddeddf bresennol, dydy’r rheiny sy’n cael eu dal yn mynd i mewn i stadiwm heb awdurdod ddim yn wynebu unrhyw ganlyniadau,” meddai.

“Mae’r rheiny sy’n cael eu dal yn ceisio mynediad, yn syml iawn, yn cael eu symud yn eu blaenau, ac yn aml yn ceisio cael mynediad sawl gwaith.”

Yn ôl ei ddeddfwriaeth arfaethedig, byddai’n drosedd ceisio mynediad i stadiwm heb docyn, a gallai unrhyw droseddwr wynebu dirwy o hyd at £1,000 a gorchymyn gwahardd am gyfnod rhwng tair a deng mlynedd.

Byddai’r ddeddfwriaeth hefyd yn berthnasol i’r Cymru Premier a gemau rhyngwladol Cymru.

“Mae’r mwyafrif helaeth o gefnogwyr pêl-droed sy’n cefnogi eu clybiau lleol, megis fy nhîm i – Caerdydd – yn gwneud hynny yn yr ysbryd sy’n briodol,” meddai.

“Mae’n bwysig eu bod nhw’n teimlo’n ddiogel wrth wneud hynny.

“Yr hyn sy’n ysgogi’r Bil gen i yw cefnogi’r cefnogwyr hynny a’u cadw nhw’n ddiogel, tra eu bod nhw’n mwynhau’r pleser (neu’r boen, yn aml iawn) o gefnogi eu tîm ag angerdd.

“Ddylai gweithredoedd yr hunanol rai ddim gallu peryglu diogelwch y mwyafrif.

“Gall y Bil gen i helpu i sicrhau bod pêl-droed yn parhau’n rym positif sy’n uno yn ein cymdeithas.”