Mae Eric Ramsay, yr hyfforddwr pêl-droed 32 oed o Lanfyllin, wedi’i benodi’n brif hyfforddwr Minnesota United yng nghynghrair yr MLS yn yr Unol Daleithiau – y prif hyfforddwr ieuengaf erioed i’w benodi yn y gynghrair honno.
Mae’n gadael ei swydd gyda Manchester United, ar ôl ymuno â’r clwb fel aelod o dîm hyfforddi Ole Gunnar Solskjaer yn 2021.
Bu hefyd yn is-hyfforddwr gyda Chymru am gyfnod.
Mae eisoes wedi creu argraff ar y byd pêl-droed fel yr hyfforddwr ieuengaf o wledydd Prydain i ennill Trwydded Broffesiynol Uefa yn 2019.
Ei gêm olaf gyda Manchester United fydd y gêm ddarbi fawr yn erbyn Manchester City y penwythnos nesaf.
Mae’n ymuno â’i glwb newydd ar gyfer ail gêm y tymor, ar ôl iddyn nhw guro Austin FC o 2-1 yn eu gêm agoriadol, ac mae’n olynu Cameron Knowles, fu wrth y llyw dros dro ers i Adrian Heath adael ym mis Hydref.
Yn ôl y clwb, Eric Ramsay yw’r “dewis gorau” ar gyfer y swydd.