Alan Wilkins, y darlledwr a chyn-gricedwr o Gymro, sy’n pwyso a mesur gyrfa un o’r cricedwyr gorau a mwyaf dylanwadol yn hanes y gêm.


Nid oedd neb tebyg iddo o’r blaen, a dydw i ddim yn credu y gwelwn ni neb tebyg eto. Roedd yn unigryw gyda set o sgiliau ynghyd â’r ymyl gystadleuol ffyrnig a’i gwnaeth yn hunllef i wrthwynebydd. Ef oedd y Chwaraewr Amryddawn Mawr.

Michael John Procter oedd y rheswm pam y gwnes i’r penderfyniad emosiynol i adael fy sir gartref, Morgannwg, gan groesi aber Afon Hafren i Loegr i ymuno â Swydd Gaerloyw ar gyfer haf 1980. A minnau’n anfodlon ym Morgannwg, gwnaeth Procter gynnig na allwn i mo’i wrthod. Dyna i chi freuddwyd. Roedd Mike Procter newydd ofyn i mi ymuno â’i sir!

Fe wnaeth Mike Procter efelychu chwaraewyr blaenaf ei gyfnod – o Garry Sobers ar ddechrau ei yrfa i Ian Botham, Imran Khan, Richard Hadlee a Kapil Dev tua’r diwedd. Y gwir amdani oedd fod gan Procter yr ‘X’ factor oedd, yn fy marn i, yn ei godi uwchlaw’r gweddill. Yr Adonis gwallt melyn, croen heulfelyn y daeth edmygedd iddo o bob tu – cefnogwyr, cyd-chwaraewyr a hyd yn oed gwrthwynebwyr – ac ar adegau, câi’r sir ei galw’n “Proctershire” yn sgil gweithredoedd arwrol y gŵr anarferol o ddawnus hwn o Dde Affrica.

Proccie oedd capten hynaws Swydd Gaerloyw, yr oedd ei enw’n gwneud i rywun feddwl am oruwch-gricedwr, un o’r cricedwyr uchaf ei barch yn y byd ac, yn nhermau ei gorffolaeth, yn ail yn unig i Sobers. Chwaraeai griced â rhyddid cafaliraidd oedd yn mesmereiddio rhywun. Roedd e’n wirioneddol gyflym, yn rhuthro i mewn i fowlio o bell â’r symudiad braich chwyrlïog mwyaf ffrwydrol oedd yn twyllo batwyr gorau’r oes. Pelenni bygythiol cyflym oedd yn gwyro i mewn, a iorcer nid annhebyg i daflegryn cyfeiriedig. Byddai’n troi at fowlio sbin pan deimlai’r angen mewn sefyllfa arbennig. Safai’n urddasol yn y slip (welais i erioed mohono’n gollwng cyfle), ac roedd yn ergydiwr rhyfeddol â’r bat, a chanddo gryn bŵer yn llifo o bâr o ysgwyddau y byddech fel arfer yn eu gweld ar baffiwr pwysau trwm. Roedd batio Procter yn gonfensiynol o glasurol, bron yn ddiymatal. Ergydiai â grym ac effaith ddinistriol, mor esthetaidd ar y llygad ag yr oedd yn ffyrnig wrth ddinistrio bowlio gwrthwynebwyr.

Mewn 14 tymor gyda Swydd Gaerloyw – ac yntau’n treulio’r gaeafau yn Rhodesia a Natal, sgoriodd Procter 21,936 o rediadau dosbarth cyntaf ar gyfartaledd o 36.01, a chipiodd e 1,417 o wicedi ar gyfartaledd o 19.53 yr un. Caiff ei allu i rwygo calon unrhyw garfan o fatwyr ei adlewyrchu yn ei bedwar hatric mewn criced dosbarth cyntaf, a’i chwe chanred dosbarth cyntaf yn olynol – i Rhodesia (Zimbabwe erbyn hyn), oedd yn cystadlu yng Nghwpan Currie yn Ne Affrica – camp mae’n ei rhannu â CB Fry, ffigwr Corinthaidd Lloegr o ganrif arall, a Syr Don Bradman.

Ef oedd y cricedwr cyntaf i sgorio canred a chipio hatric yn yr un gêm ddwywaith. Yn 1977, mewn gêm undydd gyn-derfynol ar gae Southampton, cipiodd e bedair wiced mewn pum pelen i chwalu prif fatwyr Hampshire, gan gynnwys Gordon Greenidge a Barry Richards. Mae’r lluniau teledu yn dal yno i’w gweld, ac unwaith y gwelwch chi’r cyfnod o fowlio dinistriol, fe welwch chi iddo gipio pum wiced mewn chwe phelen, mewn gwirionedd, ond nid oedd y dyfarnwr yn barod i godi’i fys unwaith yn rhagor!

Alan Wilkins (chwith) a Mike Procter wrth ei ymyl. Hefyd yn y llun mae Tony Brown a Brian Brain (Swydd Gaerloyw v India’r Gorllewin, 1980)

Apartheid

Golygai polisi apartheid Llywodraeth De Affrica mai saith gêm brawf yn unig chwaraeodd Procter – pob un yn erbyn Awstralia, tîm gorau’r byd bryd hynny fwy na thebyg – a chipio 41 wiced ar gyfartaledd o 15 yr un. Bu’n rhaid i Procter fodloni, felly, ar chwarae criced i ffwrdd o’r llwyfan rhyngwladol o 1970 ymlaen. Rhagorodd yn ei gyfnodau byr gyda thîm Gweddill y Byd mewn pum “Prawf” yn erbyn Lloegr yn 1970, ac yng Nghyfres y Byd “torri’n rhydd” Kerry Packer yn Awstralia yn 1977-78. Ond ar gae sirol Bryste, pencadlys Clwb Criced Swydd Gaerloyw, y câi ei drin â’r un parchedig ofn â WG Grace, Gilbert Jessop a Wally Hammond.

Roedd ganddo’r cyfan. Bowliai mor gyflym â neb yn y wlad. Roedd mor fygythiol â’r un o fowlwyr eraill y cyfnod, gan gynnwys goreuon India’r Gorllewin, ac roedd ei ergyd drwy’r cyfar mor hardd fel y byddai Hammond, neu Tom Graveney, wedi rhoi eu sêl bendith. Neu yn y gêm gyfoes, cystal ag unrhyw beth y gallai Rohit Sharma ei gynhyrchu. Proccie oedd arwr llu o gricedwyr ifainc, yn gymeriad allan o bapur newydd Boy’s Own, yn ffigwr chwedlonol yr oesau.

Welais i erioed mo Keith Miller yn chwarae, ond efallai mai disgrifiad Ian Chappell o’i gyd-Awstraliad rhyfeddol oedd y rheswm pam yr ystyriai nifer fod Mike Procter mor agos at Miller ag y deuai neb o’r blaen. Cricedwr rhyngwladol Awstralia oedd Keith Miller, yn beilot gyda Llu Awyr Awstralia yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Caiff Miller ei ystyried gan lawer fel chwaraewr amryddawn gorau erioed Awstralia. Roedd ei allu, ei agwedd ddi-hid a’r ffaith ei fod yn drwsiadus yn ei wneud yn ffefryn gan y dorf lle bynnag y chwaraeai. Dilynai Proccie yn ôl ei droed mewn oes arall.

Arweiniai Procter y capten drwy esiampl ac yn reddfol. Roedd hi’n anodd peidio bod â pharchedig ofn o’r Goliath hwn yn y byd criced, cymaint felly nes i mi ei alw’n ‘Captain’ pan ymunais â Swydd Gaerloyw – a byth yn ôl ei enw. Ni fyddai’n cynnal sgwrs estynedig, yn enwedig felly ar ddiwrnod gêm. Disgwyliai Proccie i chi gyrraedd y safonau oedd yn dderbyniol ganddo. Haws dweud na gwneud!

Gallai godi ei gêm yn uwch fyth pan fynnai sefyllfa’r gêm. Cofiaf un o’r canrediadau mwyaf rhyfeddol iddo ei sgorio ar gae godidog Coleg Cheltenham yn erbyn Middlesex, sef tîm ei gyfaill mawr Vince van der Bijl. Tarodd ‘Big Vince’ ei ffon agored allan o’r ddaear yn y batiad cyntaf, ond Proccie gafodd y gair olaf yn yr ail fatiad, wrth iddo dawelu ei gyd-chwaraewr o Natal â pherfformiad batio berodd i bob un ohonom yn yr ystafell newid – gan gynnwys Zaheer Abbas, un arall o ffigurau chwedlonol Swydd Gaerloyw – wylio mewn rhyfeddod.

Tu hwnt i’r maes chwarae

Cafodd gyrfa sirol Procter ei chwtogi gan anaf llesteiriol i’w benglin, gan roi ei fowlio cyflym oedd wedi mesmereiddio yn y gorffennol, er mawr rhyddhad i lu o fatwyr sirol dros y wlad. Ar ôl i’w ddyddiau chwarae ddod i ben, mentrodd Proccie i’r blwch sylwebu teledu am gyfnod, cyn troi ei law at fod yn Ddyfarnwr Gemau’r ICC. Ond rywsut, roedd ei weld wedi’i gyfyngu i ystafell yn gwylio criced drwy’r dydd yn ymddangos yn anghydweddol â’r ymladdwr o chwaraewr a fu unwaith. Ef oedd hyfforddwr cenedlaethol De Affrica pan gawson nhw ddychwelyd i’r byd criced rhyngwladol. Ni ddaeth chwerwedd fyth i’r wyneb o golli allan ar yrfa ryngwladol hir. Aeth yn ei flaen i fod yn brif ddewiswr ei wlad.

Yn ddiweddarach, sefydlodd y Mike Procter Foundation, sef prosiect gafodd ei greu i wella bywydau miloedd o blant difreintiedig yn ei dalaith gartref, KwaZulu-Natal, gan hyfforddi chwaraeon a sgiliau bywyd i’r rheiny heidiai i’w wersi. Bydd y Foundation yn parhau yn ei enw, gyda buddsoddwyr yn addo parhau â byd Mike Procter a sicrhau ei waddol yn ei ddinas gartref, Durban.

Yn gadarn, rhydd ei ysbryd a dawnus dros ben, chwaraeai Mike Procter fath o griced adawai pobol yn ochneidio mewn rhyfeddod, a nifer yn ei gysgod. Roedd ei bresenoldeb ar y cae yn awdurdodol. Ef oedd y Prif Ynad. Y Llywodraethwr. Weithiau’n gafalîr ond bob amser yn haearnaidd ei DNA, byth yn goddef lol, fe wnaeth i nifer ddioddef yn ystod ei gyfnod yn chwaraewr amryddawn gorau fy nghenhedlaeth.

Cysgwch mewn hedd, Captain. Caiff eich gweithredoedd yn chwaraewr Swydd Gaerloyw eu cofio am byth. Mae eich gwaddol wedi’u hysgythru mewn llythrennau aur. “Proctershire” oedd y sir y gwnaethoch ei dewis. Diolch am y cyfle i gael rhannu eich taith nefolaidd â chi. Ni fydd neb tebyg i chi eto.