Am drafferth! Dw i’n styc ar waelod y grisiau symudol. Pam? Doedd dim sôn am gi yn unman. O’r diwedd – o’r hir ddiwedd – daeth stribed tenau o fenyw, a’i holl osgo’n ymgorfforiad o ffasiwn. Roedd ganddi fag lledr, ac yn y bag … ci. Wel, ci o fath beth bynnag: chihuahua. Er mawr syndod i minnau, hithau a’r chihuahua, llwyddais i fenthyg y ci ganddi, er mwyn cael dringo gyda’r esgaladur i’r ail lawr. Pam y fath drafferth? Oni wyddoch? Oni fuoch yn yr un sefyllfa? Os bosib? Oni welsoch yr arwydd wrth droed y grisiau symudol: ‘Dogs Must Be Carried’?
Ac wedyn … oes, mae rhagor. Tra’n gyrru am adre’, fe ddois i stop wrth y goleuadau traffig, a dyma gnoc ar y ffenest. Dau ddyn sylweddol iawn eu maint, a’i hwynebau mor sobr-ddwys a’u dillad tywyll du. Agor y ffenest mewn braw. ‘Sir’, meddai’r cyntaf, ‘you must now park your vehicle please.’ Esboniais iddo nad oedd angen i mi barcio, gan fy mod ar fy ffordd adre’. Gyda gofal mawr, mentrais awgrymu hefyd nad call oedd parcio yng nghanol Newport Road. ‘No, you don’t seem to understand sir, you must park your car now.’ Gwylltiais; wel, fel mae gweinidogion yn gwylltio: yn sidét braidd. Y llall ymatebodd i’r gwylltio hwn: ‘We’re just trying to do our job, sir.’ Calliais. Roedd y gŵr hwnnw’n gwbl gywir. Yn ysgrifenedig ar ei gefn, mewn llythrennau melyn, llachar oedd y geiriau: ‘Parking Enforcement Officer’; Swyddog Gorfodi Parcio. Y diwrnod hwnnw, fe’m gorfodwyd i barcio. Bu’n rhaid ufuddhau.
Wedi cwblhau fy nghyfnod o barcio gorfodol, cychwynnais eto fyth, am adref, gan obeithio y tro hwn, cael cyrraedd heb drafferth. Wrth agosáu gwelais yr arwydd: ‘Horses Drive Slowly’. Wedi meddwl, mae’n rhaid i geffylau yrru’n araf, gan mai anodd yw cadw’r pedolau ar y pedalau.
Nid ymadroddion i’w cymryd yn llythrennol mo rhain! A dyma ni’n dod at ddiben y sylwadau hyn heddiw: peryglon y darlleniad llythrennol. Sonia Christopher Hitchins yn ei lythyr i Gynhadledd Genedlaethol Anffyddwyr Unol Daleithiau America (Ebrill 2011) am beryglon y meddwl llythrennol:
Our weapons are the ironic mind, against the literal; the open mind against the credulous.
Pe bai Hitchins yn Gymro, buaswn yn tyngu ei fod wedi darllen Pedair Cymwynas Pantycelyn, gan John Gruffydd Moelwyn Hughes (R.E.Jones a’i Frodyr, Conwy, 1922).
Dyma eiriau Moelwyn:
Anffawd golledus yw bod dynion mor chwannog i gymryd geiriau’n llythrennol, heb ddeall ohonynt nad ydynt amgen na chais egwan i fynegi gwirioneddau … ac nid oes neb mor druenus o ddiobaith i fedru deall nac adnod nac emyn â’r gŵr o feddwl llythrennol. Bid sicr, nid ymadroddion i’w cymryd yn llythrennol mewn na ‘Sgrythur, diwinyddiaeth, nac emyn yw ‘gwaed,’ ‘prynu,’ ‘talu,’ ‘rhyddhau,’ a’u cyffelyb. Cynhwysant anfeidrol ormod o wirionedd i fod yn llythrennol. Lladd y mae y llythyren; yr ysbryd sydd yn bywhau. (t.55)
Nid yr un yw dweud fod Gair Duw yn y Beibl â dweud mai’r Beibl yw Gair Duw. Gwaith pob gweinidog a phregethwr ac athro yw canfod – a galluogi eraill i ganfod – y trysor yn y llestri pridd, a golyga hynny rannu rhwng y geiriau a’r Gair. Nid oes alw am wfftio rheswm a synnwyr i ddilyn arweiniad yr Ysbryd Glân. O dderbyn bod awdurdod y Beibl yn deillio o awdurdod uwch, sef Efengyl Iesu Grist, rhaid mynd i’r afael â’r rhannau hynny o’r Ysgrythur sy’n gwneud Duw yn greulonach na theyrn creulonaf ein cyfnod hyd yn oed. Ceir digon o enghreifftiau o’r Duw dialgar yn y ddau Destament. Bodlonaf ar un dyfyniad o lyfr cyntaf Samuel:
Dywedodd Samuel wrth Saul … gwrando’n awr ar eiriau’r Arglwydd. Fel hyn y dywed Arglwydd y Lluoedd:
‘Yr wyf am gosbi Amalec am yr hyn a wnaeth i Israel, sef eu rhwystro hwy ar y ffordd wrth iddynt ddod i fyny o’r Aifft. Dos, yn awr, a tharo’r Amaleciaid, a’u llwyr ddinistrio hwy a phopeth sydd ganddynt; paid â’u harbed, ond lladd pob dyn a dynes, pob plentyn a baban, pob eidion a dafad, pob camel ac asyn. (15:1-3)
Pa un ohonom a all gyfeirio at ddarn fel hwn fel ‘Gair Duw’? Wrth ddarllen, a chyd-ddarllen y Beibl, dylem gofio, ac atgoffa’n gilydd, os nad yw’r adnodau a ddarllenir ac a thrafodir yn amlygu cariad diamod Duw tuag at bawb, os nad ydynt yn hyrwyddo barn a chyfiawnder mewn cymdeithas; mewn gair, os ydynt yn gwrth-ddweud y ‘newydd da’ am Dduw mewn cnawd, onid oes gyfiawnhad dros gyhoeddi nad Gair Duw mo’r geiriau hyn?
Y dasg feirniadol a hunanfeirniadol hon yw’r dasg fwyaf diddorol, fwyaf anturus y gelwir arnom i’w chyflawni fel pobl ffydd. Wrth ymroi i’r dasg hon byddwn yn amlygu’r gwirionedd mai asgell, nid cawell ffydd yw’r Beibl.