Mae ieithydd sy’n medru saith iaith newydd gyfieithu nofel o’r Eidaleg i’r Gymraeg.

Daeth Reece Lloyd, sy’n byw ym mhentref Shotton ar Lannau Dyfrdwy yn Sir y Fflint, yn rhugl yn y Gymraeg ychydig dros bum mlynedd yn ôl.

Gradd mewn Almaeneg, Ffrangeg ac Eidaleg sydd gan Reece, ac mae hefyd yn siarad Romaneg a rhywfaint o Bwyleg.

Ar ôl gwneud y radd gyntaf ym Mhrifysgol Bangor, aeth yn ei flaen i gwblhau gradd meistr mewn Cyfieithu yno.