Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen

Rwyf newydd ddechrau darllen Theatr a Chymdeithas gan Euros Lewis – pwrpasol iawn gan fy mod yn gweithio rhan amser ar gampws Theatr Felin-fach gyda Chlwb Ffermwyr Ifanc Ceredigion, a gydag Euros Lewis ar ymgyrch gymunedol Ysgol Cribyn yng ngweddill fy amser. Mae’r ddwy swydd yn gweithio at sicrhau ffyniant cymunedau cefn gwlad Cymru ac rwy’n gyffrous i ddarganfod pa wersi mae’r llyfr yma’n eu rhannu!