Mae pryderon bod posib i bobol bleidleisio mwy nag unwaith yn ras arweinyddol Llafur Cymru.

Y gred yw mai dim ond tua 100,000 o bobol sy’n gymwys i bleidleisio am arweinydd nesaf y blaid – Vaughan Gething neu Jeremy Miles – ac mae’r rhain yn cynnwys aelodau o undebau llafur ac aelodau’r blaid Lafur.

Ond mae un o swyddogion polisi’r Gyngres Undebau Llafur (TUC), Joe Allen, wedi codi pryderon nad oes fawr ddim i atal pobol rhag pleidleisio mwy nag unwaith.