Mae gwybodusion cylchgrawn Broadcast wedi barnu bod Cwmni Da yn un o’r cwmnïau teledu gorau i weithio iddyn nhw yng ngwledydd Prydain.

Roedd y buddion mae staff y cwmni yng Nghaernarfon yn eu mwynhau – pizza am ddim, £500 o fonws yn ystod yr argyfwng costau byw, anturiaethau adeiladu tîm mewn ystafell ddianc – wedi creu argraff ar y beirniaid.