Mae pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru wedi derbyn clod a bri eleni wedi iddyn nhw gymhwyso ar gyfer gemau grŵp Cynghrair Cyngres UEFA.
Y Seintiau Newydd yw’r clwb cyntaf o’r cynghreiriau Cymreig i chwarae ar yr haen yma o bêl-droed Ewropeaidd.
Hyd yma mae’r Seintiau wedi llwyddo i guro Astana o Kazakhstan, a pherfformio’n barchus mewn colledion yn erbyn Fiorentina o’r Eidal, Shamrock Rovers o’r Werddon, Djugardens o Sweden a Phanathinaikos o Wlad Groeg.