Mae darlledu dramâu llwyfan ar sgrîn wedi tyfu mewn poblogrwydd dros y blynyddoedd diweddar. Mae NT at Home wedi bod yn llwyddiannus iawn, sef gwasanaeth ffrydio’r National Theatre sy’n galluogi tanysgrifwyr i fwynhau cynyrchiadau diweddaraf y cwmni o’u soffas neu sinemâu lleol, heb fynd yn agos i Lundain.