O wrando ar yr ymateb gan rai i gyhoeddi’r gwrthwynebwyr yng ngrŵp Cymru ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026, fe ddylen ni ddechrau cynllunio’r daith i Ogledd America yn barod. Mae’n wir, byse hi wedi gallu bod yn waeth, ond mae yna dal heriau mawr yn wynebu Craig Bellamy a’i dîm.