Wedi gwylio’r gêm gyntaf rhwng Menywod Cymru ac Iwerddon, doeddwn i ddim yn rhoi gobaith i Gymru yn yr ail gêm yn Nulyn yr wythnos diwethaf. Er roedd y sgôr wedi gorffen yn gyfartal yn y gêm gyntaf, roedd y Gwyddelod yn fwy, yn gryfach ac yn fwy pwerus. Roeddwn i’n siŵr mai’r un fyddai’r hanes, unwaith eto, ac y byddai tîm Rhian Wilkinson yn cael ei siomi ar y cam olaf.