Aeth blwyddyn gron heibio ers i mi gychwyn sgrifennu am rygbi yn Golwg. Ces i’r cyfle i grynhoi stâd y gêm i’r cylchgrawn hwn ar gefn 2023 echrydus o wael ar y cae ac o fewn coridorau Undeb Rygbi Cymru. Y gobaith – y disgwyl – oedd y byddai 2024 yn well o lawer.