Newyddion mawr yr wythnos oedd Warren Gatland yn cyhoeddi ei garfan ar gyfer y Chwe Gwlad. Ond bu dipyn yn digwydd ym myd rygbi dros y Dolig hefyd, fel yr eglura Seimon Williams…
I’r rhan fwyaf ohonom, mae’r wythnos neu ddau cyn y Nadolig yn gyfle i ymlacio, i gymryd saib bach, i gicio llwyth o dasgau i’r flwyddyn newydd.
Nid felly y mae hi ym myd rygbi, gyda nifer o gemau mawr i’w chwarae dros yr ŵyl. Gemau darbi yw’r rhain, yn aml. Mwy am rheiny yn y man.