Fe gafodd hanes ei greu yn Lloegr yr wythnos ddiwethaf yn dilyn “gôl” gan Dominic Solanke i Tottenham yn erbyn Lerpwl yn rownd gynderfynol Cwpan Cynghrair Lloegr. Roedd yna siom i gefnogwyr y tîm cartref ar ôl asesiad y tîm VAR bod Solanke wedi bod yn camsefyll.  Nid hyn oedd yn hanesyddol wrth gwrs, ond y ffaith y cafodd y penderfyniad ei gyhoeddi ar uchelseinydd i’r stadiwm gan y dyfarnwr, Stuart Attwell. Dyma’r tro cyntaf erioed i ddyfarnwr siarad gyda thorf yn Lloegr gan ddefnyddio microffon