Yr adeg yma bob blwyddyn, rydw i’n tynnu’r addurniadau lawr, yn cael gwared â’r goeden ac yn dechrau gwneud fy nghynlluniau i wylio chwaraeon yn y flwyddyn i ddod. Fel arfer, mae hynny yn meddwl trefnu teithiau cyffrous i wylio seiclo, yn enwedig y Tour de France. Ond yr Haf nesaf, fydda i yn ymweld â mynyddoedd y Swistir yn lle’r Alpau Ffrengig a’r Pyrrennees. Yr Haf nesaf, fydda i yn dilyn tîm menywod Cymru yn nhwrnamaint Euro 2025.