Druan o Lanusyllt (Saundersfoot).

Er yn le gwych a phrydferth fe fydd y pentref, am byth, i’w gymharu â Dinbych y Pysgod, ei chwaer gyfoethog tair milltir i’r gorllewin ohono.

Yn Ninbych y Pysgod mae pedwar traeth; pob un â naws a chymeriad gwahanol. Dim ond dau draeth gwastad sydd yn Llanusyllt – yr un sy’n wynebu’r pentref – a thraeth Coppet, i’r dwyrain.