Yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 7), mae’r Prif Weinidog Eluned Morgan wedi esbonio’i chynlluniau er mwyn cyflawni dros Gymru yn 2025.
Bu’n trafod ei hymrwymiad i wrando ar bobol Cymru, a’r gwariant arfaethedig sydd wedi’i addo yn y Gyllideb Ddrafft.
‘Llywodraeth sy’n gwrando’
Cafodd Eluned Morgan ei phenodi’n Brif Weinidog yn ystod cyfnod anodd i’r Llywodraeth Lafur haf diwethaf.
Bryd hynny, fe addawodd hi y byddai’n treulio cyfnod estynedig yn holi am adborth a chyngor y cyhoedd.
Canlyniad yr ymarfer hwn, mae’n debyg, oedd y blaenoriaethau ddaeth yn wraidd i raglen waith ei llywodraeth: Cymru iachach, swyddi a thwf gwyrdd, cyfleoedd i bob teulu, a chysylltu cymunedau.
Heddiw, mae’r Prif Weinidog wedi egluro pa mor bwysig oedd profi bod y blaenoriaethau hynny ar waith.
“Yn rhinwedd fy swydd o fod yn Brif Weinidog Cymru, rwy’n teimlo bod rhaid i ni fod yn llywodraeth sy’n gwrando ac yn llywodraeth sy’n ymateb i’r hyn sy’n cael ei glywed, gan weithio gyda’n partneriaid i sicrhau canlyniadau go iawn i bobol Cymru,” meddai.
‘Gweledigaeth fentrus’
Wrth drafod ei chynllun ar gyfer y flwyddyn newydd, bu’r Prif Weinidog yn cyfeirio at yr £157m ychwanegol sydd eisoes wedi’i ddyrannu i gyflawni’r addewidion hyn.
Mae hyn yn cynnwys dros £70m ar gyfer offer diagnostig a chymorth i leihau amseroedd aros yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yn ogystal â £50m i ysgolion a cholegau, ac £20m i ofal cymdeithasol.
Bu’n sôn hefyd am y Gyllideb Ddrafft, a’r gwariant arfaethedig ar flaenoriaethau’r cyhoedd yn sgil hynny.
Mae disgwyl y bydd y Gyllideb Ddrafft, gafodd ei chyhoeddi fis Rhagfyr y llynedd, yn mynd gerbron y Senedd ym mis Chwefror.
Mae’r Llywodraeth yn honni ei bod yn “amlinellu gweledigaeth fentrus y Llywodraeth ar gyfer dyfodol mwy disglair, gan ddarparu £1.5bn ychwanegol ar gyfer blaenoriaethau a gwasanaethau cyhoeddus”.
Ond mae’r gwrthbleidiau’n dadlau nad yw’r Gyllideb Ddrafft yn ddigon uchelgeisiol, yn enwedig am mai Llywodraeth Lafur sy’n gyfrifol am ariannu Llywodraeth Cymru o San Steffan am y tro cyntaf ers 14 mlynedd eleni.
‘Troi dalen lân’
Roedd y Prif Weinidog hefyd yn gobeithio manteisio ar ei hanerchiad heddiw er mwyn awgrymu y bydd eleni’n ‘ddalen lân’ i’w llywodraeth, wedi blwyddyn mor fregus y llynedd.
“Mae gennym ni gynllun uchelgeisiol ar gyfer cyflawni yn 2025 a thu hwnt, gan weithio ar draws pob un o’n meysydd blaenoriaeth ac mewn cydweithrediad â’n partneriaid ledled y wlad,” meddai.
“Nid dyma ddiwedd ein sgwrs â phobol Cymru o bell ffordd; mae’n fwy o droi dalen lân, dechrau blwyddyn newydd, dechrau tymor newydd, a dechrau ein taith i greu dyfodol mwy disglair i Gymru.”
Erbyn diwedd y Senedd bresennol, mae hi wedi ymrwymo i :
- £400m yn rhagor o gefnogaeth i gefnogi’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i gyflwyno gwasanaethau ac i dalu cyflogau
- £175m yn rhagor er mwyn adnewyddu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol
- Trwsio miloedd o dyllau ffyrdd a phalmentydd
- Gwario mwy o arian ar chwaraeon, diwylliant a threftadaeth
- £40m i gefnogi pobol ag anghenion dysgu ychwanegol
- £144m i gynnal rhaglen brentisiaethau
- Dod â bysiau dan reolaeth gyhoeddus
- Canolbwyntio ar godi presenoldeb disgyblion mewn ysgolion i’w lefelau cyn y pandemig Covid-19
- Rhoi mwy o gefnogaeth ar gyfer llythrennedd a rhifedd ym mhob ysgol
- Sicrhau bod gan bob ysgol uwchradd gynllun i gefnogi iechyd meddwl a lles