Dim diolch.
Dwi ddim eisio 25% oddi ar bris tanysgrifiad i focsys prydau parod sy’n honni y byddan nhw’n gwneud i mi golli o leiaf 10 pwys erbyn y Pasg. Dwi ddim eisio SlimFast (os ydi’r ffasiwn beth yn dal i fodoli) a dwi ddim eisio darllen stori arall am bigiadau colli pwysau, a gymaint yn well, mwy atyniadol, yn haws i f’edmygu fyddwn i taswn i ond yn colli ambell stôn.