Mae Moli’n pwyso dros fwrdd y gegin, ei llyfr ysgol o’i blaen a’i châs pensiliau newydd sbon ar agor wrth ei hymyl, fel ceg sydd wastad ar fin dweud rhywbeth mawr. Mae hi’n sgwennu’n araf, a’i thafod yn pipian allan rhwng ei gwefusau wrth iddi wneud: arferiad annwyl, plentynnaidd, yn hoel o bwy oedd hi ers talwm, yn symbol ei bod hi’n tyfu’n hŷn. Dwi’n troi i ffwrdd, yn trio llyncu’r teimlad pruddglwyfus sy’n mynnu ei ffordd i fy meddwl ar ddechrau bob blwyddyn. Mae hi’n gymaint o fraint gweld y