Bûm i’n darllen erthygl yn Nation.Cymru fis Tachwedd am y gostyngiad sylweddol yn y nifer o ddisgyblion sy’n dysgu ieithoedd tramor yn ein hysgolion: er enghraifft, mae’r nifer o ddisgyblion sy’n astudio TGAU yn Ffrangeg ac Almaeneg wedi haneru mewn un degawd.
Astudiais Ffrangeg ar gyfer TGAU ac yn bersonol dwi’n difaru na wnes i fwrw ymlaen gyda fe i lefel A. Rydw i’n dysgu sut i siarad Ffrangeg ar hyn o bryd, ac felly nid yw byth yn rhy hwyr i geisio dysgu iaith newydd!