Mae’r gair ‘diwygiad’ wedi bod ar fy meddwl yr wythnos hon, wedi i mi wylio cyfres odidog BBC Wolf Hall: The Mirror and the Light. Mae’r gyfres yn adrodd stori’r cyfreithiwr a gwladweinydd Thomas Cromwell (1485-1540)  a fu’n un o ffigyrau mwyaf pwerus yr oes Duduraidd, ac yn un o benseiri allweddol y Diwygiad Protestannaidd.