Ganed Islwyn Ffowc Elis yn Wrecsam yn 1924, ac fel rhan o ddathliadau 100 mlynedd ers geni’r awdur mynychais ddarlith goffa Cylch Llên Llanfairpwll (ymunwch!) gan yr Athro Gerwyn Williams. Dysgais lawer o ffeithiau difyr am y diweddar lenor fel sut roedd yn weinidog yn yr Eglwys Bresbyteraidd, yn genedlaetholwr selog ac – ar sail ei ddaliadau heddychaidd – yn wrthwynebydd cydwybodol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.